Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwyddiant Ffair Swyddi 
  		Published: 23/04/2018
Mynychodd dros 500 o bobl ddigwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant a 
gynhaliwyd yn ddiweddar yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. 
Dyma鈥檙 digwyddiad cyntaf i鈥檞 redeg gan y t卯m Cymunedau ar Waith a Mwy sydd 
newydd ei sefydlu.  Mae鈥檙 t卯m wedi tyfu a datblygu or t卯m Cymunedau Yn Gyntaf 
gwreiddiol, fu鈥檔 gyfrifol am ddiogelu nifer o gyfleoedd swyddi a hyfforddi i 
bobl leol drwy ei gyfnod o 15 mlynedd mewn bodolaeth. 
Roedd y digwyddiad hwn wedi ei anelu at oedolion a phobl ifanc syn chwilio am 
waith ac roedd yn ddigwyddiad ar y cyd llwyddiannus arall rhwng Cymunedau ar 
Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru.
Cefnogwyd y digwyddiad gan 20 darparwr a 52 cyflogwr, gyda dros 500 o swyddi 
gwag ar gael mewn amrywiaeth o sectorau.  Mae adborth darparwyr (sefydliadau 
addysg, darparwyr hyfforddiant a sefydliadau sy鈥檔 darparu cyfleoedd gwirfoddoli 
ac ati) yn dangos bod safon yr ymgeiswyr a lefel yr ymgysylltu yn uwch na鈥檙 
llynedd, gyda mwy o gyfleoedd i gael sgyrsiau un-i-un.    Ac oherwydd safon 
uchel y mynychwyr, roedd ar rai cyflogwyr eisiau cyfweld 芒 nhw yn y fan a鈥檙 
lle. 
Yn ogystal 芒 gwneud cais am swyddi gwag roedd ceiswyr gwaith yn gallu cwrdd 芒 
chyflogwyr, darparwyr addysg a sefydliadau cefnogi eraill a gofyn cwestiynau 
iddynt. 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
 鈥淯nwaith eto, roedd y digwyddiad rhyngweithiol hwn yn llwyddiant ysgubol ac yn 
rhoi cyfle i鈥檙 mynychwyr gwrdd 芒 chyflogwyr, sefydliadau addysg ac asiantaethau 
cymorth.  Mae cyflogwyr wedi dweud wrthym ni fod y digwyddiad wedi bod yn 
brofiad cadarnhaol iddyn nhw.  Mae鈥檔 hanfodol bod busnesau yn denu ac yn 
recriwtio鈥檙 bobl iawn ar gyfer eu swyddi.  Mae digwyddiadau fel yr un yma yn 
gyfle iddyn nhw wneud hynny.鈥