Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Clwb Menter newydd i ardal Treffynnon 
  		Published: 26/04/2018
Wedi llwyddiant Clwb Menter Shotton, mae Cymunedau am Waith a Mwy rwan yn 
cyflwyno Clwb Menter newydd yn Sir y Fflint wedi ei leoli yn Nhreffynnon.  
Mae鈥檙 Clwb Menter gwreiddiol wedi helpu llawer o bobl leol a sefydlodd eu 
busnes ers ei sefydlu bum mlynedd yn 么l. Mae鈥檙 grwp yn cynghori pobl drwy ei 
weithdai ar nifer o fudd-daliadau a all eu helpu nhw wrth iddynt gychwyn 
busnes, gall hefyd fod o gymorth gyda mentor perthnasol i arwain a datblygu eu 
busnes neu eu syniad busnes. Mae鈥檙 clwb yn rhad ac am ddim ac mae鈥檔 gwahodd 
siaradwyr a chynghorwyr o asiantaethau eraill. Maer sesiynau bob amser yn 
gyfeillgar, yn llawn gwybodaeth ac yn llawn egni, cydweithrediad, ysbrydoliaeth 
a syniadau! Mae amrywiaeth o bobl yn mynychu - yn amrywio o fusnesau sefydledig 
i frandio syniadau newydd 鈥 pob un yn chwilio am y cam nesaf.
Cynhelir y rhaglen newydd, sy鈥檔 cychwyn ar 9 Mai rhwng 1:30-3:30pm, yn Kim 
Inspire, The Hub, Park Lane, Treffynnon, CH8 7UR.  Bydd yn canolbwyntio ar 
gefnogaeth a chyfleoedd rhwydweithio a bydd y gweithdai鈥檔 cael eu cyflwyno gan 
Sandra Donoghue 鈥淢ingle for Business鈥, y mae ei phrofiad o weithio gyda grwp 
Shortton wedi bod yn llwyddiannus.  
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
 鈥淢ae Clwb Menter Shotton wedi bod yn llwyddiant mawr dros y blynyddoedd ac 
maen gam positif ymlaen i sefydlu Clwb Menter newydd yn Nhreffynnon.  Byddwn 
yn annog unrhyw weithiwr proffesiynol ac entrepreneuriaid y byd busnes i alw 
heibio鈥檙 sesiwn er mwyn darganfod mwy 鈥 mae鈥檔 cynnig rhywbeth i bawb, os ydych 
chi ond yn cychwyn arni neu yn edrych am gymorth er mwyn cymryd y cam nesaf. 
Os hoffech gofrestru, cysylltwch 芒 Beverly Moseley ar 
beverly.moseley@flintshire.gov.uk neu 01244 846090.