Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyngor Sir y Fflint yn cyhoeddi manylion o鈥檙 cyntaf o gyfres o raglenni Gwella Priffyrdd
  		Published: 20/04/2018
Nawr bod y gaeaf gwaethaf ers sawl blwyddyn wedi ein gadael a bod amodaur 
tywydd yn gwella, gallwn fynd ir afael 芒r dasg o gynnal atgyweiriadau parhaol 
ar rwydwaith y priffyrdd. 
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymweld 芒, ac archwilio pob ffordd yn y Sir, gan 
gynnal arolygon cyflwr sydd wedi galluogi rhoi s锚l bendith ar restr 
blaenoriaeth o raglenni arwynebu. Bydd y rhaglenni nawr yn cael eu tendro, i 
sicrhau bod y Cyngor yn derbyn y gwerth gorau a bydd y gwaith gwelliannau 
allweddol hwn yn dechrau ar y priffyrdd ym mis Mai. Bydd hyn o gymorth wrth 
adfer cyflwr rhwydwaith priffyrdd y Cyngor, a aseswyd fel y rhwydwaith sy鈥檔 
cael ei gadw yn y cyflwr gorau dros Gymru gyfan, yn 2017.  
Bydd y rhaglen, sydd 芒 gwerth dros 拢1m, yn gweld nifer o ffyrdd ar draws Sir y 
Fflint yn cael eu harwynebu鈥檔 gyfan gwbl. Noddir y rhaglenni hyn gan gyllideb 
cynnal a chadw priffyrdd y Cyngor ei hun gyda chefnogaeth nawdd ychwanegol gan 
Lywodraeth Cymru. 
Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor ddydd Llun 23 Ebrill, 
2018 a bwriedir bod y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Carolyn Thomas: 
 鈥淓r gwaethaf sefyllfa ariannol cyfredol ar y Cyngor, rydym yn falch o allu 
gwneud y buddsoddiad hwn yn ffyrdd Sir y Fflint, syn dangos pwysigrwydd cynnal 
a chadw rhwydwaith priffyrdd y Cyngor i safon dda.  Rydym hefyd wedi bod yn 
mynd i鈥檙 afael ag atgyweiriadau dros dro dros y gaeaf i sicrhau diogelwch y 
rhwydwaith, felly rydym yn falch o allu dechraur gwaith atgyweiriadau parhaol. 
Bydd cyhoeddiadau pellach dros yr wythnosau nesaf ar raglenni ychwanegol mewn 
lleoliadau dinesig a gwledig wrth i鈥檙 safleoedd gael eu nodi a鈥檜 hasesu.