Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun lles
  		Published: 20/04/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi Cynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau 
Cyhoeddus Sir y Fflint (鈥測 Cynllun) pan fydd yn cyfarfod yn ddiweddarach y mis 
hwn.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bartner statudol ac yn bartner arweiniol ar gyfer 
cydlynu鈥檙 Cynllun a fydd yn cael ei fabwysiadu mewn cyfarfod o鈥檙 Cyngor Sir 
llawn yn ddiweddarach yr un diwrnod.
Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth.  Mae鈥檙 
cymunedau a wasanaethir ganddi yn disgwyl i bartneriaid statudol a thrydydd 
sector weithio gyda鈥檌 gilydd gyda blaenoriaethau wedi鈥檜 rhannu. Mae pob partner 
sector cyhoeddus wedi dangos ymrwymiad cryf i gydweithio i gyflawni 
gweledigaeth a blaenoriaethau cyffredin ar gyfer lles ein sir yn y dyfodol.
 
Ffurfiwyd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn Ebrill 2016, fel cyfrifoldeb 
statudol Deddf Llesiant Cenedlaethaur Dyfodol (Cymru) 2015. Roedd ei waith yn 
canolbwyntio ar gynhyrchu鈥檙 Asesiad Lles a datblygu鈥檙 Cynllun Lles, a gyhoeddir 
ym Mai 2018. Mae鈥檙 Cynllun wedi鈥檌 ddatblygu ochr yn ochr 芒 Chynllun y Cyngor ac 
mae blaenoriaethau鈥檙 ddau wedi鈥檜 halinio鈥檔 gryf. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae pob partner wedi gweithion dda iawn gydai gilydd, gan ddangos 
creadigrwydd, parodrwydd ac atebolrwydd, o fewn fframwaith arweinyddiaeth cryf. 
鈥淣od lefel uchel BGC Sir y Fflint yw 鈥済warchod, cynnal a gwella lles 
economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy 
gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus. Ar 么l gweld y gefnogaeth frwdfrydig gan 
bob partner BGC, rwy鈥檔 hyderus y gallwn gyflawni hyn gyda鈥檔 gilydd.
鈥淢ae鈥檙 Cynllun yn cyd-fynd yn dda 芒鈥檙 gwaith arall a wneir yn y rhanbarth i 
wella ein hisadeiledd, a darparu mwy o gyfleoedd cyflogaeth i鈥檔 preswylwyr 
lleol.鈥
Mae鈥檙 BGC wedi dewis a chefnogi pum blaenoriaeth ar gyfer y Cynllun Lles, fel a 
amlinellir isod:
? Diogelwch Cymunedol
? Economi a Sgiliau 
? Yr Amgylchedd 
? Byw yn Iach ac Annibynnol 
? Cymunedau Gwydn