Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun rhyddhad ardrethi Stryd Fawr
Published: 24/04/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint fabwysiadu cynllun Rhyddhad Ardrethi
Stryd Fawr Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018/19, a fydd yn darparu rhyddhad
ardrethi busnes ychwanegol i fanwerthwyr stryd fawr Sir y Fflint dros y
flwyddyn nesaf.
I fanteisio ar y swm o gefnogaeth y gellir ei roi ac i sicrhau y caiff ei
dargedu at yr ardaloedd a busnesau sydd 芒r angen mwyaf, bydd dwy haen o
ryddhad ar gael.
Bydd yr haen gyntaf o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr stryd fawr sydd 芒 gwerth
ardrethol rhwng 拢6,001 a 拢12,000, sydd naill ai eisoes yn cael rhyddhad
ardrethi busnes bach (SBRR) neu ryddhad ardrethi trosiannol. Byddant yn cael
gostyngiad o 拢250 yn eu bil ardrethi, neu os bydd eu bil yn llai na 拢250, bydd
yn cael ei leihau i ddim.
Bydd yr ail haen o ryddhad yn gymwys i fanwerthwyr stryd fawr 芒 gwerth
ardrethol rhwng 拢12,001 a 拢50,000, a oedd yn cael cynnydd yn eu rhwymedigaeth
ardrethi o 1 Ebrill 2017 ac nad ydynt yn cael SBRR neu ryddhad trosiannol. Bydd
talwyr yr ardrethi hyn yn cael gostyngiad yn eu bil ardrethi o 拢500 neu
gyfanswm y rhwymedigaeth sy鈥檔 weddill, os yw鈥檔 llai na 拢500.
.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyllid Cyngor
Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn falch iawn o allu rhoi鈥檙 gefnogaeth hon i fodloni anghenion y siopau
lleol, bwytai, caffis ac eiddo trwyddedig. Mae鈥檙 Cyngor yn gweithio mewn
partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i gynnig yr arbedion hyn, sy鈥檔 helpu i hybu
ein heconomi leol.
鈥淵n seiliedig ar y rhai a fanteisiodd ar y cynllun yn ystod 2017/18, rydym yn
rhagweld y bydd tua 150 o fusnesau鈥檔 gymwys, naill ai ar gyfer rhyddhad
ardrethi haen 1 neu 2, drwy grant wedi鈥檌 amcangyfrif, ac wedi鈥檌 ad-dalu鈥檔
llawn, o 拢45k.鈥