Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Strategaeth Hyrwyddor Iaith Gymraeg
  		Published: 19/04/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo Strategaeth pum mlynedd 
ddrafft i Hyrwyddo鈥檙 Iaith Gymraeg cyn ymgynghori鈥檔 ehangach a chymeradwyo鈥檙 
broses ymgynghori pan fydd yn cyfarfod ar 24 Ebrill.  
Mae Safon y Gymraeg 145 yn ei gwneud yn ofynnol ir Cyngor baratoi 
Strategaeth Hyrwyddo pum mlynedd a鈥檌 chyhoeddi ar wefan y Cyngor.    Mae鈥檙 
Strategaeth angen cynnwys targed ar gyfer cynyddu neu gynnal y nifer o 
siaradwyr Cymraeg.  
Nod y Strategaeth ddrafft yw:  鈥渉ybu, cefnogi a diogelu鈥檙 iaith Gymraeg er budd 
cenedlaethau presennol a鈥檙 dyfodol.   Byddwn yn cefnogi ac yn cynyddu鈥檙 lefel 
bresennol o siaradwyr Cymraeg, o 13.2% (19,343 o bobl) yn y sir i 13.6% (20,000 
o bobl) yn ystod y cyfnod hwn. Ein nod yn y tymor hirach, ar 么l 2021 yw cynyddu 
nifer y siaradwyr Cymraeg gan greu sir ddwyieithog lle mae鈥檙 Gymraeg yn rhan 
naturiol o fywyd bob dydd.鈥
Mae鈥檙 Cyngor eisoes wedi ymrwymo i鈥檙 iaith Gymraeg a bydd y Strategaeth hon yn 
cefnogi mentrau eraill sydd eisoes yn bodoli gan gynnwys: 
? Cynllun Strategaeth Cymraeg mewn Addysg y Cyngor sy鈥檔 anelu i gynyddu鈥檙 nifer 
o ddysgwyr a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg.  
? Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg o fewn Iechyd a Gofal 
Cymdeithasol 鈥淢wy na Geiriau鈥 a weithredir yn llwyddiannus o fewn Gwasanaethau 
Cymdeithasol.  
?  Strategaeth Llywodraeth Cymru i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yng 
Nghymru erbyn 2050.  
 
Bydd Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Iaith Gymraeg hefyd yn cyfrannu at Gynllun Lles y 
Cyngor.  
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddatblygu Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Iaith 
Gymraeg pum mlynedd hon.    Mae gennym eisoes bolisi ar gyfer y Gymraeg yn y 
gweithle i sicrhau ein bod yn codi proffil y Gymraeg er mwyn helpu i gynyddu 
nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir a鈥檙 cyfleoedd i weithwyr ddefnyddio鈥檙 
Gymraeg yn y gwaith.鈥
鈥淏ydd gweithredu鈥檙 Strategaeth hon yn ein cefnogi i ddatblygu gwasanaethau 
dwyieithog.    Mae hefyd yn anfon neges glir, yn fewnol ac yn allanol, bod yr 
iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi ac yn ased o fewn cyflogaeth.鈥
Cynhelir y broses ymgynghori ar Strategaeth Hyrwyddo鈥檙 Iaith Gymraeg yn ystod 
Mai 2018 a bydd y Strategaeth derfynol yn cael ei chyflwyno i鈥檙 Cabinet yn 
ddiweddarach yn y flwyddyn.