Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Astudiaeth Ffordd Fynediad Sir y Fflint Swydd Gaer
Published: 19/04/2018
Gofynnir i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo comisiwn ar y cyd i
ymgysylltu 芒 phartner arbenigol i wneud argymhellion ar y llwybr a ffafrir, ar
gyfer cynllun priffyrdd traws-ffiniol newydd posibl.
Mae鈥檙 prosbectws 鈥淒atgloi ein gwir botensial鈥 gan Gynghrair Mersi a鈥檙 Ddyfrdwy,
a gyhoeddwyd yn 2017, yn tynnu sylw at y cyfraniad sylweddol mae ein
his-ranbarth yn ei wneud ar hyn o bryd i鈥檙 economi genedlaethol.
Mae nifer o gynlluniau ffyrdd a rheilffyrdd wedi鈥檜 nodi yn y prosbectws, sy鈥檔
cael eu hystyried yn hanfodol i ddatgloi datblygiad yn y dyfodol. Fodd bynnag,
er mwyn archwilio opsiynau tymor hwy a fyddai鈥檔 sicrhau bod y rhwydwaith
priffyrdd ar draws y rhanbarth yn gweithredu鈥檔 effeithiol ac effeithlon, mae
trafodaethau wedi digwydd rhwng swyddogion Cyngor Sir y Fflint, Llywodraeth
Cymru, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, a
Phriffyrdd Lloegr, i archwilior atebion rhwydwaith posibl ar gyfer ardal
ehangach Glannau Dyfrdwy a Chaer.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydoedd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y
Cynghorydd Carolyn Thomas:
鈥淒yma gyfle cyffrous i鈥檔 rhanbarth, ac mae鈥檙 comisiwn ar y cyd hwn yn gyfle i
edrych ar y rhanbarth yn ei gyfanrwydd a sut y gallai pob sir fanteisio ar hyn.
Y budd i ni fyddai cael gwared ar dagfeydd traffig or ardal leol, mynediad
uniongyrchol at yr A55, gwell mynediad i safleoedd datblygu newydd ac syn dod
ir amlwg o amgylch Penarl芒g, Saltney a Brychdyn, a darparu mynediad
uniongyrchol i Barc Manwerthu Brychdyn. Mae yna hefyd y posibilrwydd o agor
mynediad i orsaf parcio a theithio rheilffordd newydd arfaethedig, yn ardal
Brychdyn, gan wasanaethu rheilffordd Caer 鈥 Arfordir Gogledd Cymru.鈥
Disgwylir y gellir gwneud y gwaith hwn o fewn pedwar mis ar y mwyaf, lle bydd
adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i鈥檙 Cabinet gyda manylion ynghylch
canlyniad yr astudiaeth.