Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Sir y Fflint yn cydnabod canmlwyddiant yr Awyrlu
Published: 18/04/2018
Gan fod RAF100 wedii lansio ym mis Ebrill, bu i Gyngor Sir y Fflint nodir
achlysur drwy godi Lluman yr Awyrlu Brenhinol yn Neuadd y Sir.
Mae RAF100 yn ymgyrch ar draws y DU i nodi 100 mlynedd ers ffurfio awyrlu
cyntaf 鈥� ac enwocaf 鈥� y byd. Wrth fyfyrio ar ei hanes balch o wasanaethu鈥檙
gwledydd, mae鈥檙 Awyrlu eleni鈥檔 coff谩u gwasanaeth ac aberth y rhai a fu, gan
ddiolch ir dynion ar merched sydd yn ac sydd wedi gwasanaethu am eu
hymroddiad ac ysbrydolir genhedlaeth nesaf fel y gallwn, gydan gilydd, barhau
i siapio ein byd am y 100 mlynedd nesaf a thu hwnt.
Dywedodd y Cynghorydd Brian Lloyd, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn falch o sefyll gyda sefydliadau eraill i ddathlu
ein hawyrlu enwog. Fel teyrnged i ymrwymiad, dewrder a hunanaberth y rhai sy鈥檔
gwasanaethu yn yr Awyrlu heddiw a rhai鈥檙 gorffennol, rydyn ni鈥檔 codi Lluman yr
Awyrlu yn Neuadd y Sir. Mae rhan bwysig i鈥檙 Awyrlu yn hanes y DU ac mae鈥檔
parhau i warchod ac amddiffyn ein gwledydd au buddiannau tramor.
Dywedodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog:
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi pob un on Lluoedd Arfog a鈥檜
cyn-wasanaethwyr ac, fel Cefnogwr y Lluoedd Arfog, rydw i鈥檔 falch bod Sir y
Fflint heddiw yn cydnabod dynion a merched dewr yr Awyrlu wrth iddo ddathlu ei
ganmlwyddiant.
Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ar draws y DU, ewch i
https://www.raf.mod.uk/raf100/.