Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mynegi Awtistiaeth
  		Published: 18/04/2018
Mae arddangosfa ffotograffig i hyrwyddo gwell dealltwriaeth o Awtistiaeth yn 
cael ei chynnal yn Theatr Clwyd, yr Wyddgrug.  Mae鈥檙 arddangosfa鈥檔 seiliedig ar 
waith ffotograffig ysbrydoledig Ken Ashton, artist lleol a gafodd ddiagnosis o 
Awtistiaeth yn ddiweddar wedi iddo gael trafferthion blaenorol yn ffitio i mewn 
i waanaethau cymunedol.  
Mae Ken yn wirfoddolwr allweddol yn natblygiad Gwasanaethau Awtistiaeth 
Integredig Gogledd Cymru (GAI/IAS), menter unigryw gan Lywodraeth Cymru a fydd 
yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2018.  Mae Ken hefyd yna awyddus i 
gyd-artistiaid gysylltu ag ef  gyda鈥檙 nod o greu Canolbwynt Artistiaid a gellir 
cysylltu ag ef ar www.sygibney.com
Meddai Neil Ayling, Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol;
 
鈥淐yngor Sir y Fflint fydd yr awdurdod lleol 鈥榣letyol鈥 yng Ngogledd Cymru ar 
gyfer y T卯m GAI a fydd hefyd yn gwasanaethu Wrecsam, Sir Ddinbych, Conwy, 
Gwynedd ac Ynys M么n.  Bydd y T卯m GAI yn rhoi gefnogaeth i bobl Awtistig o bob 
oed a鈥檜 teuluoedd a鈥檜 gofalwyr. 
 
鈥淭ra bydd y GAI ar gael i bobl o bob oed ni fydd yn disodli unrhyw wasanaethau 
sydd eisoes wedi eu sefydlu, ac nid yw ychwaith yn wasanaeth argyfwng.  Bydd y 
T卯m GAI hefyd yn anelu at ddarparu hyfforddiant a chyngor am Awtistiaeth i 
amrywiaeth o wasanaethau鈥檙 cyngor ac asiantaethau partner.   
 
Meddai鈥檙 Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau 
Cymdeithasol:
 
鈥淔e wnaeth Ken yn garedig iawn ganiat谩u i ni ddefnyddio peth o鈥檌 waith i 
hyrwyddo ymwybyddiaeth o Awtistiaeth yn Sir y Fflint a Gogledd Cymru gyda鈥檙 nod 
o wneud i bobl feddwl am gyfarfod, gweithio gyda neu fod yn gyfaill i rywun 
gydag Awtistiaeth yn y gobaith y bydd Awtistiaeth yn cael ei ddeall yn well a鈥檌 
dderbyn mewn cymunedau ar draws y rhanbarth er mwyn galluogi pobl i 
integreiddio鈥檔 fwy cadarnhaol.鈥   
Meddai Ken Ashton;
鈥淓rs y llynedd rwyf wedi bod yn rhan o helpu i sefydlu鈥檙 GAI ac rydw i eisiau 
gweithio gyda gwasanaethau er mwyn helpu i鈥檞 gwneud nhw鈥檔 fwy hygyrch i bobl 
fel fi sydd ag Awtistiaeth.  Gall 5% o ymdrech gan y gwasanaethau wneud 100% o 
wahaniaeth o safbwynt helpu i integreiddio pobl gydag awtistiaeth yn y 
gymuned.鈥  
 
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Awtistiaeth ar wefan Gwybodaeth GAI 
Cymru: http://www.asdinfowales.co.uk/
 
 
Nodyn i Olygyddion
 
Yn y llun atodedig mae;
 
O鈥檙 chwith i鈥檙 dde:  Cynghorydd Wisinger; Neil Ayling, Prif Swyddog y 
Gwasanaethau Cymdeithasol; Jo Taylor, Rheolwr y Gwasanaethau Cymdeithasol; 
Melanie Hough; yngh Christine Jones, Aelod Cabinet dros y Gwasanaethau 
Cymdeithasol a Joanne Sefton, myfyriwr gwaith cymdeithasol.