Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Taith a Sgwrs ar hyd Aber Afon Dyfrdwy
  		Published: 28/03/2018
Mae鈥檙 awdur erthyglau teithio, y 鈥楤ald Hiker鈥, neu Paul Steele, yn amnewid ei 
deithiau tramor arferol am rywbeth ychydig yn nes at adref yr wythnos nesaf 
wrth iddo deithio ar hyd Aber Afon Dyfrdwy. Ar hyd y daith bydd yn sgwrsio efo 
pobl i ddysgu am eu dyheadau ar gyfer yr ardal arbennig hon er mwyn cynghori 
prosiectau i鈥檙 dyfodol.
Syniad Partneriaeth Dalgylch Llanw Afon Dyfrdwy yw鈥檙 daith hon, wedi鈥檌 chynnal 
gan Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaer sy鈥檔 dymuno derbyn barn pobl am yr aber, 
h.y. pam eu bod yn mwynhau dod yma, i beth a pha welliannau y gellir eu gwneud. 
Bydd y daith yn dechrau ddydd Mercher 28 Mawrth ar Draeth Barkby, Prestatyn ac 
yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru at Bont Penarl芒g, i orffen yn Hoylake ddydd 
Gwener 30 Mawrth, ar 么l galw heibio i Warchodfa Natur Red Rocks Ymddiriedolaeth 
Natur Sir Gaer. Mae鈥檙 bartneriaeth yn galw am bobl i ymuno 芒 Paul ar y daith ac 
i sgwrsio efo fo am bwysigrwydd yr ardal i鈥檙 gymuned.
Meddai Sarah Bennett, Rheolwr Ardal Ymddiriedaeth Natur Sir Gaer: 鈥淩ydym ni鈥檔 
falch iawn bod Paul yn rhan o鈥檙 prosiect hwn. Bydd yn ein helpu i godi 
ymwybyddiaeth o faterion ac anghenion yr ardal er lles y bywyd gwyllt a鈥檙 
gymuned. Po fwyaf yw brwdfrydedd pobl am eu hoff fannau gwyllt, mwyaf yw鈥檙 
gallu i sicrhau bod mannau pwysig fel Aber Afon Dyfrdwy yn cael eu gwarchod a鈥檜 
gwella er budd pobl a bywyd gwyllt.鈥
Ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae Aber Afon Dyfrdwy yn hafan i fywyd gwyllt. 
Mae鈥檙 rhydwyr a鈥檙 adar gwyllt yn gwneud yr aber yn un o鈥檙 aberoedd pwysicaf yn 
Ewrop. Yn ogystal ag adar, fe allwch chi hefyd ddod o hyd i fadfallod y tywod a 
llyffantod cefnfelyn. Mae pwysigrwydd yr aber i fywyd gwyllt yn golygu bod yr 
ardal wedi鈥檌 gwarchod yn rhyngwladol. 
Meddai鈥檙 Cyng. Carolyn Thomas, Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad 
Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae ein llwybr arfordirol yn lle gwych i gerdded a 
beicio, gyda golygfeydd amrywiol iawn o ardaloedd diwydiannol ac ardaloedd sy鈥檔 
llawn hanes, treftadaeth a bioamrywiaeth. Un o fy hoff rannau yw cerdded o 
Gastell y Fflint ar hyd yr hen ddociau tuag at Dwnnel Milwr. Yn y gwanwyn, 
mae鈥檙 ardal yn doreithiog o flodau. Mae rhan Sir y Fflint or llwybr wedi鈥檌 
rheoli gan ein ceidwaid arfordirol sy鈥檔 gweithio gyda grwpiau cymunedol, 
busnesau a sefydliadau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf maen nhw wedi defnyddio 
cyllid grant i greu arwyddion a cherfluniau syn adrodd hanes yr ardal er mwyn 
i ymwelwyr weld sut maer ardal wedi newid dros y blynyddoedd. Gobeithiaf yn 
wir y bydd Paul yn mwynhau cerdded o amgylch tirwedd gwyllt a godidog Aber Afon 
Dyfrdwy, ac y bydd pobl yn gallu ymuno efo fo i siarad am eu hoff lefydd.
Paul Steele yw sylfaenydd a golygydd gwefan Bald Hiker, lle mae o鈥檔 blogio am 
ei anturiaethau heicio ar draws y byd. Mae鈥檙 cyfryngau cymdeithasol yn rhan 
bwysig iawn oi straeon, ac mae modd iw ddilynwyr ar Twitter deithior byd 
drwy ei luniau a dysgu am ei brofiadau wrth roi cynnig ar dechnolegau newydd. 
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd, Natural England, Grwp Cadwraeth Aber Afon 
Dyfrdwy, yr RSPB, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Wirral, Cyngor 
Sir y Fflint, Ymddiriedolaeth Afon Dyfrdwy Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru ac 
Ymddiriedolaeth Natur Sir Gaer holl yn bartneriaid o fewn Phartneriaeth 
Dalgylch Llanw Afon Dyfrdwy ac yn cydweithio i wella Aber Afon Dyfrdwy.
Gallwch ddilyn y daith ar-lein wrth i Paul bostio ffilmiau, lluniau a 
gwybodaeth am ei daith ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio 
#DeeEstuaryWalk.