Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd
Published: 28/03/2018
Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth y Byd yn cael ei gynnal rhwng 26 Mawrth a
2 Ebrill 2018.
I ddathlu鈥檙 wythnos, mae Gwasanaeth Integredig Awtistiaeth Gogledd Cymru (IAS)
yn ariannu nifer o weithgareddau ar draws y rhanbarth mewn partneriaeth 芒
Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir y Fflint (CGGSFf), Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd), Medrwn M么n a Mantell Gwynedd. Mae鈥檙
gweithgareddau鈥檔 cynnwys hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, sesiynau galw
heibio鈥, grantiau bychan, edrych ar yr angen am wasanaethau cymunedol i
unigolion awtistig a hyrwyddo鈥檙 gwasanaethau sydd eisoes ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yng Ngwasanaethau Awtistiaeth Integredig yng
Nghymru a bydd y gwasanaeth yng Ngogledd Cymru yn cael ei redeg ar y cyd rhwng
Cyngor Sir y Fflint a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Fe fydd
Gwasanaeth Awtistig Integredig yn darparu gwasanaethau diagnostig i oedolion;
cefnogaeth gydol oes i unigolion awtistig (plant ac oedolion) eu teuluoedd a
gofalwyr; cymorth i symud o ddarpariaeth plant i ddarpariaeth oedolion a
hyfforddiant i weithwyr proffesiynol.
Ethos y gwasanaeth yw sicrhau bod unigolion awtistig a鈥檜 gofalwyr yn gallu cael
gafael ar gyngor, cefnogaeth ac ymyriadau sydd eu hangen i鈥檞 galluogi i
gyrraedd eu llawn botensial. Nod y gwasanaeth yw gweithio mewn partneriaeth 芒
gwasanaethau sydd eisoes wedi鈥檜 sefydlu ac nid eu disodli.
Mae gwasanaeth gogledd Cymru wrthi鈥檔 cael ei ddatblygu, a bydd yn cael ei
lansio mewn camau o fis Mehefin 2018.
Dywedodd y Cyng. Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae plant ac oedolion awtistig yn aml yn cael anhawster deall y byd a gall
ffitio mewn i gymdeithas fod yn heriol. Mae鈥檔 bwysig codi ymwybyddiaeth yn
lleol am awtistiaeth a鈥檌 effaith ar unigolyn ac aelodau eu teulu a鈥檜 gofalwr.
Mae鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei gynnal yng ngogledd Cymru yn hanfodol i sicrhau bod
cefnogaeth a dealltwriaeth yn parhau i dyfu.
I gael rhagor o wybodaeth am Awtistiaeth, ewch i www.asdinfowales.co.uk ac ar
gyfer Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ewch i
www.asdinfowales.co.uk/gwasanaeth-awtistiaeth-integredig