Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Tai cyngor newydd Heol y Goron, Coed-llai
  		Published: 23/03/2018
Mae鈥檙 pum ty cyngor newydd bellach wedi eu trosglwyddo i鈥檙 tenantiaid. 
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Aaron Shotton, y Dirprwy Arweinydd a鈥檙 Aelod 
Cabinet Tai, y Cyng. Bernie Attridge a鈥檙 Aelod Lleol, y Cyng. Ray Hughes wedi 
bod o gwmpas y tai newydd. 
Roedd yr hen safle garejis yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd hynnyn 
cael effaith andwyol ar y trigolion lleol.
Mae鈥檙 pum ty wedi eu gosod i bobl leol drwy Bolisi Gosod Lleol ac yn rhan o 
Raglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP) i godi 500 o dai cymdeithasol 
a fforddiadwy yn Sir y Fflint. 
Meddai鈥檙 Cyng. Shotton:
鈥淩wyf yn falch iawn bod y Cyngor yn parhau i gadw at ei addewid i ddarparu tai 
fforddiadwy o safon uchel er mwyn galluogi pobl i fyw yn eu cymunedau lleol. 
Mae鈥檙 tenantiaid y bu i ni gwrdd 芒 nhw wrth eu bodd gyda鈥檜 cartrefi newydd.鈥 
Meddai鈥檙 Cyng. Attridge:
鈥淢ae鈥檙 datblygiad hwn yn adeiladu ar lwyddiant safleoedd eraill yng Nghei 
Connah, y Fflint, yr Wyddgrug a Shotton. Fel Cyngor, rydym ni wedi ymrwymo i 
estyn Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor i bob rhan o Sir y Fflint fel 
bod pob cymuned yn elwa ar gartrefi newydd o safon, sydd hefyd yn creu swyddi a 
gwaith i fusnesau lleol.鈥
Meddai鈥檙 Cyng. Ray Hughes:
鈥淩oedd yr hen garejis yn edrych yn ofnadwy ac yn achosi problemau 
gwrthgymdeithasol i drigolion lleol. Mae鈥檙 datblygiad newydd wedi trawsnewid y 
safle yn ogystal 芒 galluogi teuluoedd ifanc i barhau i fyw yng Nghoed-llai a 
mynd 芒鈥檜 plant i鈥檙 ysgol gynradd leol.鈥