Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		The Walks, y Fflint
  		Published: 23/03/2018
Mae gwaith ar ddatblygiad tai The Walks yn y Fflint yn mynd rhagddo鈥檔 dda iawn. 
Bydd y datblygiad ar hen safle fflatiau deulawr y Cyngor yn cynnwys 92 o dai 
cyngor a thai rhent fforddiadwy, a fydd yn gymysgedd o dai dwy a thair ystafell 
wely yn ogystal 芒 rhandai un a dwy ystafell wely. 
Mae allweddi鈥檙 bloc rhandai gorffenedig, sy鈥檔 cynnwys 24 o randai un a dwy 
ystafell wely, wedi eu trosglwyddo鈥檔 ddiweddar ir tenantiaid newydd. 
Mae datblygiad The Walks yn elfen bwysig o鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol 
(SHARP) ehangach i godi 500 o dai cyngor a fforddiadwy ar wahanol safleoedd yn 
Sir y Fflint. 
Mae鈥檙 cynllun yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth 芒 Wates Residential, sy鈥檔 
gweithio gyda鈥檙 gadwyn gyflenwi leol a鈥檙 cyngor lleol i ddarparu鈥檙 rhaglen ar 
draws Sir y Fflint. 
Bu i Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cyng. Aaron Shotton, ynghyd 芒鈥檙 Dirprwy 
Arweinydd a鈥檙 Aelod Cabinet Tai, y Cyng. Bernie Attridge, a鈥檙 Aelod Ward Lleol, 
y Cyng. Ian Roberts, ymweld 芒鈥檙 datblygiad yn ddiweddar i gwrdd 芒鈥檙 tenantiaid 
sy鈥檔 symud i fyw i鈥檙 bloc rhandai newydd, a fydd yn cael ei alw yn Queen 
Elizabeth II.
Meddai鈥檙 Cyng. Shotton: 鈥淢ae datblygiad The Walks yn rhan o strategaeth adfywio 
ehangach y Cyngor a fydd, yn ychwanegol at y tai newydd, hefyd yn elwa ar 
gynllun gofal ychwanegol a chanolfan feddygol. Bydd y datblygiadau hyn yn 
trawsnewid y Fflint ac yn creu treflun gwell a gwasanaethau newydd a hygyrch 
yng nghanol y dref.鈥
Meddai鈥檙 Cyng. Bernie Attridge: 鈥淢ae SHARP yn parhau i ddarparu cartrefi o 
safon uchel sydd wir eu hangen ar y Fflint. Mae鈥檙 Cyngor wedi ymrwymo i wireddu 
buddion SHARP er lles cymunedau gwahanol yn Sir y Fflint ac i gefnogi 
Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod o godi 20,000 o dai newydd yng Nghymru 
erbyn 2021.鈥
Meddai鈥檙 Cyng. Ian Roberts, sydd hefyd yn cadeirio Gweithgor Adfywior Fflint: 
鈥淢ae鈥檔 braf gweld y weledigaeth i adfywio鈥檙 Fflint yn dechrau dwyn ffrwyth, 
diolch i ymrwymiad a gwaith caled y gymuned leol sy鈥檔 gweithio mewn 
partneriaeth 芒鈥檙 Cyngor Sir a phartneriaid o鈥檙 sector cyhoeddus. Yn ogystal 芒 
gwella鈥檙 tai sydd ar gael i drigolion lleol, mae busnesau lleol yn y Fflint 
hefyd yn elwa ar adfywiad canol y dref.鈥