Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Awr Ddaear 2018
  		Published: 22/03/2018
Nos Sadwrn, 24 Mawrth 2018, am 8.30pm bydd Cyngor Sir y Fflint yn diffodd 
goleuadau diangen yn Neuadd y Sir yr Wyddgrug am awr i ddathlu Awr Ddaear y 
WWF. 
Dyfarnwyd bathodyn seren i Gyngor Sir y Fflint a bydd yn ymuno 芒 miliynau o 
bobl, dinasoedd, cymunedau a thirnodau o gwmpas y byd mewn arddangosfa weledol 
a byd-eang o ymrwymiad i warchod ein planed a mynd i鈥檙 afael 芒 materion 
amgylcheddol sy鈥檔 galw am sylw brys. Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn 
gweithredu trwy wneud #PromiseForThePlanet i gynhyrchu mwy o ynni o ffynonellau 
adnewyddadwy.
Mae ein gweithwyr hefyd yn cael eu hannog i wneud eu haddewidion eu hunain i 
newid un peth yn eu bywydau a fydd yn helpu i warchod ein planed, o ddefnyddio 
cwpanau coffi ailddefnyddiadwy i gerdded i鈥檙 gwaith. Mae Cyngor Sir y Fflint 
wedi bod yn gweithio ar y cyd 芒 Groundwork Gogledd Cymru i ddarparur Her 
Asiantau Ynni ar draws ysgolion Sir y Fflint. Mae鈥檙 disgyblion wedi bod yn 
dysgu sut mae ynni鈥檔 cael ei gynhyrchu a sut i ostwng effaith defnyddio ynni ar 
yr hinsawdd. Er mwyn dathlu Awr Ddaear 2018 mae鈥檙 disgyblion hefyd wedi gwneud 
cyfres o Addewidion i鈥檙 Blaned gan gynnwys:
路 Rydw i鈥檔 addo diffodd goleuadau wrth adael yr ystafell
路 Rydw i鈥檔 addo treulio llai o amser yn y gawod, dim mwy na 6 munud
路 Rydw i鈥檔 addo cau鈥檙 llenni gyda鈥檙 nos i gadw鈥檙 gwres i mewn
路 Rydw i鈥檔 addo gwneud yn siwr fod pob plwg wedii ddiffodd cyn i mi adael fy 
ystafell
路 Rydw i鈥檔 addo gwisgo dillad cynnes yn lle gofyn i mam droir gwres ymlaen
路 Rydw i鈥檔 addo peidio 芒 gadael fy ff么n yn gwefru drwyr amser
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淔e fydd Cyngor Sir y Fflint yn ymuno 芒鈥檙 digwyddiad byd-eang hwn unwaith eto 
eleni. Rydym eisoes wedi cymryd nifer o gamau i leihau ein h么l troed carbon ein 
hunain, gwella effeithlonrwydd ynni a gosod systemau gwresogi a chynhyrchu 
trydan adnewyddadwy ar ein hadeiladau an tai ein hunain.
鈥淐afodd hyn ei brofi鈥檔 ddiweddar yn dilyn ein llwyddiant yng Ngwobrau 
Effeithlonrwydd Ynni Rhanbarthol Cymru ar 么l i ni ennill Awdurdod Lleol y 
Flwyddyn am ein rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig, a chawsom 
Gymeradwyaeth Uchel yng nghategori Ymgyrchydd Cefnogaeth i Gwsmeriaid 
Diamddiffyn y Flwyddyn am y gefnogaeth a roddwyd i aelwydydd mewn partneriaeth 
gyda Chanolfan Cyngor ar Ynni Gogledd Cymru. 
Mae adborth gan yr ysgolion sydd wedi cymryd rhan hyd yma wedi bod yn 
ardderchog: 
Ysgol y Llan: 鈥淪esiwn wych! Cymerodd pob disgybl ran mewn amryw o weithgareddau 
a oedd yn eu hannog i fod yn fwy ecogyfeillgar yn y cartref鈥
Rydym yn annog cymunedau lleol a phartneriaid yn Sir y Fflint i wneud 
#PromiseForThePlanet ac ymuno ag ymgyrch fyd-eang Awr Ddaear nos Sadwrn 24 
Mawrth am 8.30pm.
Dangoswch eich cefnogaeth i fyd gwell!  I gael mwy o wybodaeth ac i wneud 
addewid ewch i www.wwf.org.uk/awrddaear