天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Digwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Blynyddol Sir y Fflint

Published: 22/03/2018

Ydych chi鈥檔 chwilio am waith? Oes arnoch chi angen cyngor ynglyn 芒 sgiliau a hyfforddiant? Os felly, dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy i wella eich siawns o gael gwaith. Bydd Cymunedau am Waith a Mwy Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod 芒 chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy rhwng 11am a 3pm, ddydd Iau 19 Ebrill 2018. Meddai鈥檙 Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd: 鈥淵n 2017 daeth 400 o bobl i鈥檙 digwyddiad hwn. Sefydlwyd y digwyddiad i gefnogi cyflogaeth yn Sir y Fflint ac amlygu cyfleoedd gwaith i bobl leol, gan roi cyfle i gyflogwyr gyfarfod ymgeiswyr wyneb yn wyneb. 鈥淟lynedd cefnogwyd y digwyddiad hwn gan fwy na 30 o gyflogwyr a sefydliadau a chanddynt dros 500 o swyddi ar gael rhyngddynt.鈥� Cewch hefyd gymorth ymarferol i鈥檆h helpu chi ddod o hyd i waith. Mae hyn yn cynnwys ardal wirio CV a chymorth i ysgrifennu ffurflenni cais gan Gyrfa Cymru. Bydd cynrychiolwyr addysg bellach ac uwch hefyd ar gael i drafod opsiynau hyfforddi a chyrsiau lleol. Gall cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau am Waith a Mwy eich cynghori ar gyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a鈥檆h cefnogi os hoffech sefydlu eich busnes eich hun. Gall mentoriaid Cymunedau am Waith eich cynghori ar eich cymhwysedd i dderbyn cymorth ychwanegol drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, syn darparu sesiynau mentora un-i-un yn Sir y Fflint. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch 芒 Kate yn Cymunedau am Waith a Mwy ar 01244 846090 neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748881647.