Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Dechrau da a newid gwedd NEWydd
  		Published: 21/03/2018
Roedd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn falch o nodi adroddiad a oedd yn manylu ar 
lwyddiant Arlwyo a Glanhau NEWydd Cyfyngedig wrth i鈥檙 cwmni ddod i ddiwedd ei 
flwyddyn gyntaf o fasnachu.
Mae hen wasanaeth arlwyo a glanhaur Cyngor, a drosglwyddwyd i Gwmni Masnachu 
Awdurdod Lleol y llynedd, yn mynd o nerth i nerth. 
Bu i鈥檙 Aelodau hefyd gymeradwyo Cynllun Busnes NEWydd ar gyfer blwyddyn 
ariannol 2018/19.
Dywedodd Steve Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr NEWydd a gyflwynodd yr adroddiad i鈥檙 
Cabinet:
鈥淩oedd ein blwyddyn gyntaf o fasnachu yn ymwneud 芒 chadw鈥檙 busnes a oedd gennym 
ni. Rhan fawr o hyn oedd ceisio cadw鈥檙 ysgolion a oedd eisoes yn derbyn y 
gwasanaeth prydau ysgol, ac maen falch gen i adrodd bod yr holl ysgolion wedi 
parhau i ddefnyddio ein gwasanaethau. Gallaf hefyd adrodd bod un ysgol, nad 
oedd wedi derbyn prydau ysgol gan ddarparwr mewnol ers sawl blwyddyn, wedi 
llofnodi contract gyda ni ym mis Rhagfyr. Rydym hefyd wedi cyflwyno tendr 
llwyddiannus ar gyfer y Caffi Cymunedol yng Nghanolfan Hamdden Treffynnon, a bu 
i ni ddechrau masnachu yno fis Gorffennaf y llynedd. 
鈥淩ydym hefyd wedi cynyddu nifer y dysgwyr sy鈥檔 derbyn prydau ysgol mewn 
ysgolion cynradd ac uwchradd. Erbyn hyn mae 53% o ddisgyblion cynradd (43% 
cynt) a 51% o ddisgyblion uwchradd (41% cynt) yn derbyn prydau ysgol. 
鈥淢ae NEWydd wedi gwneud cynnydd da yn ei flwyddyn gyntaf, gan gadw gwasanaethau 
a swyddi a chreu llinellau busnes newydd ac, wrth wneud hynny, datblygu 
cyfleoedd gwaith newydd. Rydym wedi arbed 拢637,000 rhwng 2014/15 a 2016/17, gan 
gadw a gwella gwasanaethau.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
鈥淢ae鈥檔 rhaid canmol y cwmni am gadw a chynyddu nifer y dysgwyr sy鈥檔 derbyn 
prydau ysgol. Mae arnom eisiau i rieni a gwarcheidwaid fod 芒 hyder yn yr hyn y 
mae plant yn ei fwyta yn yr ysgol, ac mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i 
fanteision deiet cytbwys i wella ymddygiad a gallu dysgu plant yn ystod y 
diwrnod ysgol.
Fel gydag unrhyw fenter newydd, mae鈥檙 newid diwylliannol yn y gweithlu yn gallu 
bod yn heriol ond mae鈥檙 Rheolwr T卯m newydd a benodwyd y llynedd i鈥檞 weld yn 
cael effaith gadarnhaol ar y gweithlu a鈥檙 cwmni, sydd bellach yn meddwl ac yn 
gweithredu yn fwy masnachol mewn amgylchedd masnachu cystadleuol. 
Mae gwisgoedd newydd a phrif swyddfa newydd yng Nghanolfan Hamdden Glannau 
Dyfrdwy hefyd wedi helpu i oresgyn y newid diwylliannol. Dylinwyd a dewiswyd y 
gwisgoedd gan staff y rheng flaen, a byddant yn cael eu lansio ar 么l gwyliau鈥檙 
Pasg.