Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhaglen ESGYN yn helpu pobl ar eu ffordd i yrfa mewn lletygarwch
  		Published: 21/03/2018
Yn dilyn rhaglen hyfforddi arloesol or enw Camu i mewn i Letygarwch, cafodd 
gyfranogwyr eu tystysgrifau mewn dathliad ym Mrychdyn. 
Cynhaliwyd y cwrs, wedi鈥檌 ariannu gan ESGYN sy鈥檔 cefnogi pobl ddi-waith 
hirdymor yn 么l i waith, am bum niwrnod dros gyfnod o bythefnos yn Ystafell 
Busnes Regus ym Mharc Manwerthu Brychdyn.
 Yn ystod eu hamser ar y cwrs dysgodd y 12 unigolion o Sir y Fflint am 
ddiogelwch bwyd, gwasanaethau i gwsmeriaid, cymorth cyntaf brys ac iechyd a 
diogelwch.  Derbyniwyd hyfforddiant hefyd ar sut i ddefnyddio til.  Bydd y cwrs 
achrededig yn eu helpu i ganfod cyflogaeth yn y dyfodol.  Bydd mentor ESGYN, 
Debbie Barker yn gweithio gyda鈥檙 unigolion i ddod o hyd i leoliadau gwaith 
posib a chyflogaeth iddyn nhw gan gynnwys gwaith ym Mharc Manwerthu Brychdyn.
Roedd Jake Doyle a Jess Randall, sydd iw gweld yn dysgu sut i ddefnyddio 
diffibriliwr gyda thiwtor y cwrs Mark Hughes o Groundwork Gogledd Cymru, yn 
falch  o gael mynychu鈥檙 cwrs.  
Meddai Jake o鈥檙 Wyddgrug:
鈥淢ae wedi bod yn hynod o ddefnyddiol ac yn llawer o hwyl hefyd.  Dwi鈥檔 teimlo 
fy mod i wedi dysgu llawer ac wedi ennill cymwysterau gydar gobaith y bydd yn 
fy helpu i ddod o hyd i waith.鈥
Dywedodd Jess o Cei Connah: 
鈥淢ae gwneud y cwrs heb os wedi fy ngwneud yn fwy o gaffaeliad i gyflogwyr.  
Mae鈥檙 cwrs cymorth cyntaf yn ddefnyddiol mewn sefyllfa gwaith, ac yn fam i dri 
o blant gallaf ddefnyddio鈥檙 sgiliau adref hefyd.  Dwi hefyd yn gwneud cwrs 
cyfrifyddiaeth SAGE trwy鈥檙 rhaglen ESGYN a gellir ei wneud ar-lein tra bod y 
plant yn yr ysgol syn ddefnyddiol iawn i mi.  Dwi鈥檔 edrych ymlaen yn fawr i 
ddod o hyd i waith diolch i鈥檙 cyrsiau ESGYN.鈥
Ni allai Mark Hughes yr hyfforddwr ganmol y grwp ddigon:
鈥淢aent wedi bod yn anhygoel, dwi wedi mwynhau gweithio gyda nhw鈥檔 fawr ac maent 
i gyd yn cymryd diddordeb go iawn ac yn awyddus i ddysgu.  Mae鈥檔 deimlad gwych 
gallu eu helpu i gyflogaeth 鈥 dwi wedi gwylio nhw鈥檔 magu hyder ac wedi gweld 
pob un yn datblygu mewn sawl ffordd wahanol.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint: 
鈥淢ae gallu rhedeg rhaglenni hyfforddiant fel hyn gyda chefnogaeth ein 
partneriaid yn hanfodol ar gyfer ein heconomi leol.  Mae angen i ni fuddsoddi 
mewn pobl leol fel eu bod yn gallu manteisio ar y cyfleoedd cyflogaeth yn yr 
ardal.  Rwyn falch iawn bod y cwrs hwn wedi bod yn llwyddiannus ac rwyn 
dymunor gorau i bawb ar gyfer y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Debbie Barker ar 01244 846090 neu 
debbie.barker@天涯社区.gov.uk.