Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llofnodi鈥檙 trawst yn Ysgol Uwchradd Cei Connah
  		Published: 16/03/2018
Mae鈥檙 rhaglen foderneiddio yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn parhau i fynd o 
nerth i nerth. 
Mae鈥檙 trawstiau a鈥檙 fframwaith ddur wedi cyrraedd ac mae pethau鈥檔 dechrau 
syrthio i鈥檞 lle.  Dathlwyd hyn yn ddiweddar mewn digwyddiad 鈥渓lofnodi鈥檙 trawst鈥 
ller oedd cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr, Kier 
Construction o Wrecsam yn bresennol.
Canolbwynt y gwaith yw disodli鈥檙 bloc Dylunio a Thechnoleg presennol a鈥檙 bloc 
Celf a Thechnoleg Bwyd a fydd yn cael eu disodli gan adeilad deulawr sy鈥檔 
cynnwys ardal weinyddu, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio ac 
ystafell ar gyfer darpariaeth addysgu, gofod swyddfa, toiledau, lifft, grisiau 
ac ystafell offer.
Mae鈥檙 gwaith yn rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac Addysg Llywodraeth 
Cymru ac yn dilyn llwyddo i gwblhau Campws Addysgu Treffynnon a Choleg 6ed 
Dosbarth Glannau Dyfrdwy a gwaith a fydd yn dechraun fuan ar ysgol gynradd 
newydd ym Mhenyffordd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton:
 鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o ansawdd uchel 
in holl ddysgwyr. Roedd yn bleser ymweld ag Ysgol Uwchradd Cei Connah a gweld 
y gwaith o godir adeilad newydd yn dechrau siapio. Bydd y datblygiadau yn yr 
Ysgol yn trawsnewid y cyfleusterau addysgu sydd ar gael yng Nghei Connah ac 
rwy鈥檔 edrych ymlaen i weld y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn dechrau 2019.鈥
Dywedodd Colin Sinclair, Cadeirydd y Llywodraethwyr:
 鈥淢ae鈥檙 bloc dysgu newydd cyffrous hwn yn cael ei adeiladu i safon uchel, i 
ddarparu cyfleusterau modern o鈥檙 radd flaenaf ar cyfleoedd dysgu gorau in 
dysgwyr ar gymuned ehangach. Rwy鈥檔 edrych ymlaen i weld yr adeilad hwn yn 
datblygu dros y misoedd nesaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:
 鈥淩wy鈥檔 falch fod gwaith yn datblygu ar y cyfleuster newydd modern hwn syn 
elwa o gyllid Llywodraeth Cymru.  Ein cenhadaeth genedlaethol yw codi safonau, 
lleihau鈥檙 bwlch o ran cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy鈥檔 destun 
balchder a hyder cenedlaethol.  Mae gan ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain ganrif ac 
Addysg ran allweddol yn hyn a dyma鈥檙 buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a鈥檔 
colegau ers yr 1960au.
Dywedodd John O鈥機allaghan, Rheolwr Gyfarwyddwr Gogleddol Kier Construction: 
 鈥淢ae鈥檙 digwyddiad llofnodi鈥檙 trawst yn garreg filltir nodedig yn y rhaglen 
foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah; mae鈥檙 gwaith dur wedi cael ei 
ddarparu gan gwmni lleol Evadx Limited ac rydym yn edrych ymlaen at weithio 
gyda nhw wrth i ni adeiladu鈥檙 bloc addysgu deulawr, a fydd yn cynnig 
cyfleusterau o鈥檙 radd flaenaf i fyfyrwyr ar 么l ei gwblhau.鈥