Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Aura
  		Published: 21/03/2018
Cytunodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar Gynllun Busnes Hamdden a Llyfrgelloedd 
Aura ar gyfer 2018/19 a chytunwyd i ryddhau cyfanswm o 拢3.773 miliwn o gyllid 
refeniw i Hamdden a Llyfrgelloedd Aura (Aura) ar gyfer 2018/19. 
Dywedodd Mike Welch, Rheolwr Gyfarwyddwr Aura a gyflwynodd yr adroddiad i鈥檙 
Cabinet:
 鈥淢ae Aura mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, wedi gwneud cynnydd 
cadarnhaol iawn yn ei flwyddyn gyntaf o weithredu. Rydym wedi cynnal 
gwasanaethau a swyddi ac wedi gwneud arbediad effeithlonrwydd o 10% yn y 
gyllideb yn 2017/18 (effaith blwyddyn gyfan o 拢0.574 miliwn).  
 鈥淵n ogystal, bydd dau ddatblygiad cyfalaf o bwys gwerth 拢2.4 miliwn yn cael eu 
cwblhau eleni, ac mae鈥檙 ddau yn cael eu hariannu gan Aura heb gost i鈥檙 Cyngor 
na thrigolion Sir y Fflint.鈥
Mae鈥檙 datblygiadau cyffrous hyn yng Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug a Phafiliwn 
Jade Jones yn y Fflint.   Mae cyfanswm o 拢1.447 miliwn yn cael ei fuddsoddi yng 
Nghanolfan Hamdden yr Wyddgrug, i ddyblu maint y cyfleuster ffitrwydd llawr 
gwaelod presennol ac i adeiladu stiwdio llawr cyntaf ychwanegol.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr, ac mae disgwyl i鈥檙 cyfleuster 
newydd agor yn ail hanner mis Mai eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint:
 鈥淢ae鈥檙 gwelliannau ym Mhafiliwn Jade Jones yn cynnwys estyniad i鈥檙 ystafell 
ffitrwydd bresennol drwy gael gwared ar y swyddfeydd presennol i greu ystafell 
ffitrwydd 芒 55 gorsaf ac adnewyddu ystafelloedd newid gwlyb presennol y pwll 
nofio gyda chynnydd yn cael ei ddarparu i鈥檙 man gwylio ar ymyl y pwll. 
Amcangyfrifir fod cost y cynllun hwn ychydig o dan 拢1 miliwn.
 鈥淢ae cynlluniau ar gyfer y dyfodol i leoliadau eraill hefyd yn cael eu 
datblygu.鈥
Mae Aura wedi bod yn gweithredu ers mis Medir llynedd.  Yn ystod y cyfnod hwn, 
mae nifer o gamau allweddol y cynllun busnes gwreiddiol wedi cael eu cyflawni 
gan gynnwys ailstrwythuro staffio mewn llyfrgelloedd a datblygu chwaraeon ac 
ymestyn y gwasanaethau taliadau debyd uniongyrchol.