Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y diweddaraf am Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug
  		Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo dyraniad arian cyfalaf i 
fwrw ymlaen i ddymchwel Camau 3 a 4 o Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug a鈥檙 
gweithgarwch ehangach i ailddatblygu鈥檙 safle.
 
Mae鈥檙 Cyngor yn paratoi sawl darn o waith wedi eu cysylltu ag ailddatblygu 
Campws yr Wyddgrug ynghyd ag adleoli nifer fawr o鈥檙 gweithlu i Unity House yn 
Ewlo.
 
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
 
 鈥淢ae sawl cam i鈥檙 prosiect a fydd yn gweld staff yn cael eu hadleoli i Unity 
House, yn Ewlo, ac i ddechrau byddwn yn gweld y gwaith o ddymchwel camau 3 a 4 
sydd eisoes yn wag.  I ddilyn hyn, bydd rhaglen o waith adfywio manylach ar 
gyfer y safle cyfan ac, i gyflawni hyn, byddwn yn chwilio am bartner datblygu 
i鈥檔 cynorthwyo i adfywio鈥檙 safle ar 么l dymchwel yr adeilad.  Mae hwn yn gyfnod 
cyffrous ac yn brosiect cymhleth ac rydym yn teimlo鈥檔 sicr y bydd yn denu鈥檙 
math cywir o bartneriaid arloesol a llawn gweledigaeth.
 
 鈥淢ae Neuadd y Sir yn hen adeilad sydd wedi cyflawni ei ddiben yn effeithiol 
ers sawl blwyddyn.  Serch hynny, mae hefyd yn adeilad costus i鈥檞 gynnal ac mae 
angen i鈥檙 Cyngor edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddo i greu 
arbedion effeithlonrwydd yn yr hinsawdd ariannol heriol hwn.  Rydym wedi bod yn 
cynnal arolwg o鈥檔 hasedau eiddo corfforaethol ers tro ac roeddem bob amser yn 
mynd i gyrraedd sefyllfa lle byddai ein ffocws a鈥檔 pwyslais yn troi tuag at 
Neuadd y Sir.  Mae ein cynigion ar gyfer y safle yn uchelgeisiol ac mae鈥檙 
gwaith yn gymhleth ond mae鈥檙 canlyniadau yn bwydo i mewn i鈥檔 strategaeth 
ariannol tymor canolig ac yn y pen-draw bydd yn cefnogi ac yn diogelu 
gwasanaethau rheng flaen.鈥