Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Trefniadau derbyniadau ysgolion ar gyfer 2019
  		Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint argymell cymeradwyo trefniadau 
derbyniadau ar gyfer mis Medi 2019 ddydd Mawrth, 20 Mawrth.
Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori blynyddol gyda llywodraethwyr ysgol, 
awdurdodau esgobaethol a chynghorau cyfagos yn ystod mis Ionawr a Chwefror. 
Roedd yn ymwneud 芒 nifer y disgyblion y gellir eu derbyn i ysgolion unigol, yn 
seiliedig ar feini prawf a rheoliadau cenedlaethol. 
Yn Sir y Fflint mae mwyafrif helaeth (tua 96%) o ddewisiadau rhieni yn parhau i 
gael eu diwallu gyda nifer eithaf bychan o apeliadau. 
Mae newidiadau arfaethedig ir niferoedd derbyn mewn dwy ysgol i adlewyrchu 
newidiadau yn yr adeiladau.  Mae鈥檙 holl newidiadau wedi cael eu cymeradwyo gan 
y penaethiaid perthnasol.  Yr ysgolion yw Ysgol Glanrafon, yr Wyddgrug ac Ysgol 
Gynradd Brychdyn. 
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir 
y Fflint: 
Rwy鈥檔 falch bod y rhan fwyaf o blant yn Sir y Fflint, unwaith eto, yn gallu 
mynychur ysgol y maent wedii dewis. Hoffwn annog rhieni a gofalwyr i 
ddychwelyd eu ffurflenni neu geisiadau ar-lein erbyn y dyddiad gofynnol.  
Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymarfer ymgynghori diweddar ac rwy鈥檔 
hyderus y bydd mwyafrif llethol o ddewisiadau rhieni yn parhau i gael eu 
diwallu.鈥