Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Datblygu Strategol 
  		Published: 21/03/2018
Yn ei gyfarfod ar 20 Mawrth, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint 
gymeradwyo ymateb arfaethedig i lythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer 
Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at holl awdurdodau lleol Gogledd 
Cymru yn eu gwahodd i roi eu barn ar baratoi Cynllun Datblygu Strategol (CDS) 
ar gyfer y rhanbarth.
Mae CDS yn gynllun a fyddai鈥檔 caniat谩u materion mwy na rhai lleol fel tai, 
cyflogaeth ac isadeiledd i gael eu hystyried mewn modd integredig a 
chynhwysfawr ar draws y rhanbarth.  Gallai cynllun o鈥檙 fath leihau cymhlethdod 
ac ailadrodd sydd wedi eu cynnwys mewn Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) a 
gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
 鈥淕all Sir y Fflint yn sicr weld gwerth cynhyrchu CDS ar gyfer y rhanbarth, ond 
fel Cyngor mae gennym un pryder o bwys ynghylch y cynnig.  Nid oes unrhyw 
gyfeiriad yn llythyr Ysgrifennydd y Cabinet ynglyn 芒 phwy fyddai鈥檔 cynhyrchu 
cynllun o鈥檙 fath ac rhaid i ni roi blaenoriaeth i gynhyrchu a mabwysiadu CDLl 
Sir y Fflint.  Ni allwn fforddio symud ein swyddogion cynllunio, sydd wedi 
ymrwymo鈥檔 llawn i鈥檔 CDLl, oddi wrth y dasg honno er mwyn gweithio ar CDS 
rhanbarthol.鈥