Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Mae Sir y Fflint yn le i鈥檞 alw鈥檔 gartref
  		Published: 16/03/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint groesawu adolygiad positif o gartrefi 
gofal yn y Sir pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf.
Yn 2017, cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hyn Cymru adolygiad dilynol o鈥檌 hadolygiad 
鈥淟le i鈥檞 Alw鈥檔 Gartref?鈥 yn 2014, yr adolygiad mwyaf erioed i gael ei gynnal i 
ansawdd bywyd a gofal am bobl hyn mewn cartrefi gofal yng Nghymru.  
Cafodd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru, 7 Bwrdd Iechyd Lleol, Llywodraeth 
Cymru a AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) eu hadolygu a鈥檜 dadansoddi yn erbyn eu 
鈥楪ofynion ar gyfer Gweithredu鈥 mewn 15 maes penodol fel yr amlinellir yn 
adolygiad 2014.
Mae Sir y Fflint yn un o bedwar awdurdod lleol, a鈥檙 unig awdurdod yng Ngogledd 
Cymru, i gael y sg么r uchaf ym mhob un o鈥檙 15 maes.  Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn 
nodi Sir y Fflint fel enghraifft o arfer arloesol ac arfer orau ar bum achlysur.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol 
Sir y Fflint:
 鈥淢ae hwn yn adroddiad ardderchog ac yn un y dylem fod yn falch iawn ohono.  
Oherwydd gwaith caled ac ymroddiad ein gweithlu bendigedig, gall pobl hyn Sir y 
Fflint fod yn sicr y byddant yn cael y gofal gorau posibl ar adeg pan allent 
fod yn teimlo鈥檔 ddiamddiffyn ac yn ansicr am eu dyfodol.
 鈥淔el y mae鈥檙 adolygiad yn nodi 鈥 mae darparu gofal mewn lleoliad cartref gofal 
yn ymwneud 芒 mwy na bod yn ddiogel a chwrdd ag anghenion corfforol sylfaenol, 
mae hefyd yn ymwneud ag ansawdd bywyd.鈥
Gwnaeth y Comisiynydd nodi y gallai Sir y Fflint wneud mwy o waith i wella 
tystiolaeth o ganlyniadau ac y dylid darparu data mwy ystyrlon a mesuradwy i 
ddangos ein gwelliannau ymhellach. Rydym wedi symud ymlaen 芒 hyn fel cam 
gweithredu.