Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Amser cyffrous i gludiant yn Sir y Fflint 
  		Published: 14/03/2018
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn derbyn 
trosolwg o鈥檙 gwaith sy鈥檔 mynd rhagddo i ddarparu datrysiad Trafnidiaeth 
Integredig y Cyngor pan fydd yn cwrdd yr wythnos nesaf. 
Mae鈥檙 trefniant cludiant integredig llawn wedi ei fabwysiadu fel elfen 
allweddol o system Fetro Gogledd Ddwyrain Cymru, sy鈥檔 cael ei hyrwyddo gan 
Lywodraeth Cymru, sy鈥檔 darparu cyllid cyfalaf sylweddol ar gyfer y cynllun. 
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y 
Cyng. Carolyn Thomas: 
 鈥淢ae 400 o fusnesau ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac maen cyflogi 
9,000 o bobl.  Mae鈥檔 un o鈥檙 ystadau diwydiannol mwyaf yng Nghymru ac yn sbardun 
allweddol i鈥檙 economi ar gyfer y rhanbarth.  Mae swyddi ar gael ond gall fod yn 
anodd i bobl gael mynediad atynt.  Mae tagfeydd traffig yn broblem a gall 
gymryd cyfnod afresymol o amser i weithwyr yn ogystal 芒 dosbarthwyr nwyddau a 
gwasanaethau gyrraedd a gadael y Parc. 
 鈥淢ae鈥檙 Cynllun hwn yn gyffrous iawn i鈥檙 Sir.  Bydd yn integreiddio pob dull o 
gludiant yn llwyddiannus a darparu ar gyfer gofynion pob un, gan gynnal a 
hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar 
yn greiddiol iddo ar yr un pryd. 
  
 鈥淏ydd yn cynnwys rhwydwaith o lwybrau beicio penodedig yn gwasanaethu鈥檙 holl 
fusnesau ar Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, canolfan reilffordd / ffordd / 
bysiau fydd yn darparu mynediad i鈥檙 parc o orsaf newydd arfaethedig Parkway 
Glannau Dyfrdwy a fydd, gobeithio yn cael ei hadeiladu yn agos at yr A548 
gyfredol, darpariaeth gwasanaeth bws gwennol rheolaidd drwy鈥檙 parc, canolfan 
bysiau / trenau yng Ngorsaf Shotton, canolfan bws gwennol yn Garden City a 
gwell amseroedd ar gyfer teithiau bws gwell ar hyd coridor Shotton/Fflint. Mae 
gwaith eisoes wedi cychwyn ar y mesurau llwybrau beicio a bysiau drwy Barth 3 y 
Parc, a bwriedir cychwyn ar waith y seilwaith parcio ceir dros y misoedd 
nesaf. 
Mae鈥檙 prosiect yn amlygu beth y gellir ei gyflawni pan fydd y Cyngor yn 
gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru a busnesau lleol i ddod o hyd i 
ddatrysiadau a fydd yn cynorthwyo datblygiad hir dymor yr holl ardal ac yn 
gwarchod swyddir bobl syn gweithio yno.
Mae鈥檙 ardal o amgylch Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy wedi bod yn destun nifer 
o astudiaethau diweddar, gyda phob un yn dod i鈥檙 casgliad mai un o鈥檙 prif 
ffactorau sy鈥檔 cyfyngu ar dwf yw鈥檙 cysylltiadau cludiant gwael i mewn ac o 
amgylch y Parc a bwriad y cynllun yw darparu trigolion Sir y Fflint a鈥檙 ardal 
ehangach gyda mynediad hawdd at y canolbwynt pwysig hwn i gyflogaeth mewn modd 
cynaliadwy a chost effeithiol.