Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynnydd y Rhaglen Dai
  		Published: 09/03/2018
Yn ei gyfarfod ddydd Mercher, 14 Mawrth, bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu 
Cymuned a Menter yn derbyn diweddariad ar gyfnodau allweddol nesaf rhaglen pum 
mlynedd uchelgeisiol y Cyngor, sef  Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP).
Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynigion i ddatblygu 92 o dai cymdeithasol 
a fforddiadwy yn Llys Dewi, Penyffordd (23 cymdeithasol / 4 fforddiadwy), Nant 
y Gro, Gronant (37 cymdeithasol / 4 fforddiadwy) a hen ddepo鈥檙 Cyngor, 
Dobshill, ger Bwcle (15 cymdeithasol/ 9 fforddiadwy). 
Mae鈥檙 cynigion diweddaraf yn adeiladu ar gynnydd a llwyddiant sylweddol SHARP 
ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2015, gyda phenodiad Wates Living Space fel 
partner datblygur Cyngor. 
Fel rhan o鈥檙 cynllun cyntaf, cwblhawyd 12 o dai cyngor newydd y llynedd yn Llys 
Custom House yng Nghei Connah. Mae gwaith adeiladu 92 o dai newydd yn The 
Walks, Y Fflint (30 o dai cyngor / 62 fforddiadwy) ar fin dod i ben, tra bo 
gwaith adeiladu 40 o dai cyngor newydd ar 5 safle yng Nghei Connah, Yr Wyddgrug 
a Choed-Llai yn mynd rhagddo鈥檔 dda gydag eiddo yn Redhall, Cei Connah a Heol y 
Goron, Coed-Llai eisoes wedi鈥檜 cwblhau a鈥檜 gosod. 
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle鈥檙 hen Laethdy, Ffordd Yr Wyddgrug, Cei 
Connah ym mis Tachwedd 2017, a disgwylir ir gwaith i  ailddatblygu hen 
Ganolfan Melrosem, Shotton ddechrau ym mis Mawrth 2018. Bydd y cynlluniau hyn 
yn darparu 15 o dai newydd yn ddiweddarach eleni. 
Mae safleoedd datblygu posibl hefyd wedi鈥檜 nodi yn Maes Gwern, Yr Wyddgrug, 
(cais cynllunio wedi鈥檌 gymeradwyo), Borough Grove, Y Fflint, hen Ddepo Canton, 
Bagillt, Llys Alun, Rhydymwyn a thir ar  Rhodfa Sealand, Garden City.  
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor: 
 鈥淢ae dros 200 o dai cyngor, cymdeithasol a fforddiadwy wedi鈥檜 cwblhau, wrthi鈥檔 
cael eu hadeiladu neu wedi鈥檜 cytuno mewn egwyddor ers dechrau ar raglen dai 
uchelgeisiol y cyngor. Mae鈥檙 datblygiadau hyn wrth wraidd ein cymunedau trefol 
a gwledig lleol a byddant yn cyfrannu at gynaliadwyedd y cymunedau hyn ac yn 
darparu cyfleoedd cyflogaeth. 
 鈥淩wy鈥檔 hyderus y byddwn yn parhau i adeiladu ar ein llwyddiant hyd yma a bydd 
y cyngor hwn yn gwireddu ei weledigaeth a鈥檌 uchelgais i ddarparu 500 o dai 
cymdeithasol a fforddiadwy erbyn 2020.鈥 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Tai:
 鈥淢ae ymrwymiad a phenderfyniad y Cyngor hwn i ddarparu tai cymdeithasol a 
fforddiadwy sydd wir eu hangen ar draws Sir y Fflint wedi鈥檜 hatgyfnerthu gan y 
cynnydd gwych a wnaed hyd yma. 
Yn unol 芒 chynlluniau blaenorol, bydd polis茂au gosodiadau lleol yn cael eu 
datblygu gan y Cyngor ar gyfer pob un o鈥檙 cynlluniau arfaethedig a byddwn yn 
sicrhau bod y ddaliadaeth a鈥檙 gymysgedd o eiddo ar gyfer y cynlluniau yn 
adlewyrchu鈥檙 angen o ran tai o fewn pob cymuned.鈥