Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Eglurhad o鈥檙 ffioedd parcio
  		Published: 09/03/2018
Ar 15 Mawrth bydd gofyn i Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd ac Adnoddau 
Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo鈥檙 
ffioedd parcio diwygiedig yn ogystal ag argymell dyddiad cychwyn ar gyfer y 
ffioedd newydd sydd i鈥檞 cyflwyno yn y Fflint.
 
Nid yw ffioedd parcio ceir wedi鈥檜 hadolygu ers eu cyflwyno ym mis Ebrill 2015 
ac nid yw鈥檙 incwm a gynhyrchir yn cwrdd 芒 chost lawn rheoli a gweithredu鈥檙 
meysydd parcio. Hyd yn oed os cymeradwyir y ffioedd newydd hyn, bydd cost 
parcio yn Sir y Fflint yn dal yn isel o鈥檌 chymharu 芒 siroedd cyfagos. Er 
enghraifft, mae parcio am dair awr yn Ninbych yn costio 拢1.50 a pharcio drwy鈥檙 
dydd yn Rhuthun a Llangollen yn costio 拢7. Ar y llaw arall, yn y rhan fwyaf o 
feysydd parcio canol tref Sir y Fflint, 拢1.50 ywr gost am barcio drwyr dydd.
 
Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y 
Cyng. Carolyn Thomas: 
 
鈥淩ydym yn byw mewn cyfnod anodd ac mae codi ffioedd meysydd parcio yn mynd i 
fod yn fater cynhennus. Mae pob Cyngor mewn sefyllfa debyg ac o ystyried 
ymchwil cymharol, mae cost parcio ym meysydd parcio Sir y Fflint yn rhatach na 
threfi a dinasoedd eraill. Yr hyn sydd arnom ni eisiau ei wneud yw adennill 
cost cynnal a chadw鈥檙 meysydd parcio yma, ni fyddwn yn gwneud unrhyw elw.鈥
 
Mae ymchwil i feysydd parcio鈥檙 sir yn dangos nad yw鈥檙 ffioedd wedi effeithio ar 
eu defnydd, yn wir, mae cynnydd wedi bod yn y defnydd mewn chwe thref yn ystod 
y ddwy flynedd ddiwethaf. Cei Connah yw鈥檙 eithriad, lle ceir llawer o fannau 
parcio oddi ar y stryd.
 
Mae鈥檙 ffioedd ychydig yn uwch yn yr Wyddgrug oherwydd bod y dref yn denu llawer 
o ymwelwyr. I adlewyrchu hyn, bydd canran or cynnydd arfaethedig yn cael ei 
fuddsoddi, drwy weithio gyda Chyngor Tref yr Wyddgrug, i wella seilwaith 
ymwelwyr.
 
Ychwanegodd y Cynghorydd Thomas:
 
鈥淐yfanswm cost rheoli a chynnal a chadw meysydd parcio yw 拢886,000 y flwyddyn, 
a byddai鈥檙 ffioedd arfaethedig yn adennill y gost hon. Byddai hyn yn arwain at 
wasanaeth parcio niwtral o ran cost ac sy鈥檔 darparu incwm ar gyfer cynnal a 
chadw meysydd parcio ac i helpu i reoli鈥檙 ddarpariaeth a鈥檙 mannau parcio ar 
gyfer ymwelwyr i ganol trefi.鈥 
 
Mae鈥檙 cynigion a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Craffu ym mis Ionawr wedi鈥檜 cynnwys 
yn y cynllun codi t芒l newydd hwn, gan gynnwys codi llai am barcio am 30 munud 
er mwyn caniat谩u ymweliadau byr, sy鈥檔 debyg i ffioedd trefi tebyg yn Ninbych. 
Mae costau parcio am gyfnodau hirach mewn meysydd parcio yng Nghaer, Sir 
Ddinbych a Wrecsam yn llawer uwch na鈥檙 rheiny a gynigir ar gyfer Sir y Fflint.
 
Bydd rhai meysydd parcio yn Nhreffynnon yn caniat谩u sawl ymweliad yn 
defnyddio鈥檙 un tocyn parcio ac nid oes unrhyw fwriad i godi ffioedd parcio 
presennol Talacre gan eu bod eisoes yn uwch na ffioedd mannau eraill yn y sir 
oherwydd y lleoliad a nifer y mannau parcio. 
 
Os cytunir ar hyn, bydd y trefniadau codi t芒l newydd yn cael eu hysbysebu ym 
mhob maes parcio, gan gynnwys y Fflint, yn ystod mis Ebrill 2018 ac yn dod i 
rym ar 14 Mai 2018.