Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Trafod adolygiad o farchnadoedd stryd
  		Published: 08/03/2018
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned a Menter Cyngor Sir y Fflint yn trafod 
adroddiad ar ddyfodol marchnadoedd stryd pan fydd yn cyfarfod yr wythnos nesaf. 
Mae marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint ac ar draws y DU wedi dirywio o ran 
maint dros y blynyddoedd.  Heblaw marchnad Yr Wyddgrug, sy鈥檔 parhau鈥檔 
llwyddiannus, mae gweddill y marchnadoedd stryd yn Sir y Fflint ond yn denu 
nifer fechan o stondinwyr marchnad a nifer cyfyngedig o gwsmeriaid sy鈥檔 bygwth 
eu cynaladwyedd.
Cynhaliwyd adolygiad yn ogystal ag ymgynghoriad gyda Chynghorau Tref yng Nghei 
Connah, y Fflint a Threffynnon.   Cynhaliwyd cyfarfodydd ymgynghori hefyd gyda 
stondinwyr marchnad yn y Fflint a Threffynnon. 
Yr argymhellion ar gyfer yr adolygiad hwn yw:
cau marchnad stryd y Fflint yn barhaol 
cytuno i drosglwyddo gweithrediad marchnad stryd Cei Connah i Gyngor Tref Cei 
Connah dros dro, yn amodol ar gadarnhad gan y Cyngor Tref a chytuno ar delerau; 
parhau i weithredu marchnad stryd Treffynnon dros dro ond parhau i drafod gyda 
Chyngor Tref Treffynnon ar ddewisiadau ar gyfer arbedion costau yn y dyfodol. 
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygiad Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
鈥淵n gyffredinol, mae marchnadoedd yn cyfrannu at fywiogrwydd cymdeithasol ac 
economaidd y trefi a gallant ddod 芒 mwy o bobl i鈥檙 trefi sydd o fudd ir 
busnesau a gwasanaethau ehangach.  Mae hyn yn parhau鈥檔 wir yn Yr Wyddgrug, ond 
mae marchnadoedd eraill wedi lleihau o ran maint yn sylweddol yn y pedair 
blynedd ddiwethaf, er gwaethaf mentrau hybu a thwf ar draws holl drefi 
marchnad.  
鈥淵n yr hinsawdd economaidd presennol hwn, gyda鈥檙 Cyngor angen dod o hyd i fwy o 
effeithlonrwydd yn ychwanegol at y 拢79miliwn o doriadau mewn gwariant dros y 
deng mlynedd nesaf, nid yw鈥檔 gynaliadwy cynnal colled incwm sylweddol yn y 
dyfodol.    
鈥淩ydym yn gwerthfawrogi pryder trigolion lleol, yn arbennig y rhai sydd wedi 
arwyddo鈥檙 ddeiseb i gadw marchnad y Fflint yn agored, ac nid yw鈥檙 penderfyniad 
hwn yn cael ei gymryd yn ysgafn.  
Byddai鈥檙 newidiadau a argymhellir, os cymeradwyir, yn golygu y byddai yna 
拢21,000 yn llai o ddiffyg arian i鈥檙 gwasanaeth bob blwyddyn.