Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Llwybr i Ofal Cymdeithasol
  		Published: 08/03/2018
Mae preswylwyr lleol wedi cael hyfforddiant, sgiliau a phrofiad yn y sector 
gofal cymdeithasol yn ddiweddar, diolch i Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint.
Roedd 10 cyfranogwr ar y cwrs dwy wythnos o hyd a gwnaethant elwa o鈥檙 
hyfforddiant ac ennill cymwysterau mewn sawl pwnc, gan gynnwys: diogelu ac 
amddiffyn, iechyd a diogelwch yn ogystal 芒 chymorth cyntaf, cyfathrebu yn 
Gymraeg a thrin a symud yn gorfforol. 
Rwan eu bod wedi cwblhau鈥檙 cwrs, c芒nt gyfle i gymryd rhan mewn sesiynau blasu a 
phrofiad gwaith i helpu i wella eu gwybodaeth o鈥檙 sector gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor 
Sir y Fflint:
鈥淢ae鈥檙 cyrsiau 鈥渓lwybr鈥 hyn yn gyfle ardderchog i bobl gael profiad a sgiliau a 
fydd yn eu helpu i ddod o hyd i waith yn y sector sydd o ddiddordeb iddyn 
nhw.   Mae鈥檙 cyfranogwyr wedi ennill cymwysterau gwerthfawr, a gallant hefyd 
fanteisio ar gyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael. 
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 gweithio i 
gefnogi, gwella sgiliau a chynnig profiad i unigolion gan helpu i wella eu 
cyfle o ddod o hyd i waith.