天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cydnabyddiaeth arbennig i ddanfonydd cludiant ysgol

Published: 06/03/2018

Mae Cyngor Sir Y Fflint wedi cydnabod danfonydd plant ir ysgol a weithredodd y tu hwnt i ddisgwyliadau wrth helpu disgybl oedd yn ei gofal. Cododd Cheryl Woodfin, sy鈥檔 fam i ddisgybl gydag anabledd difrifol, ymwybyddiaeth am weithredoedd arwrol danfonydd ei mab. Diolch i鈥檙 gofal a鈥檙 proffesiynoldeb a ddangoswyd gan Ange Davies, mae mab Ms Woodfin yn gwella ar 么l dioddef o ffit ar ei ffordd i鈥檙 ysgol. Cysylltodd y fam 芒鈥檌 chynghorydd lleol, y Cynghorydd Sean Bibby, er mwyn diolch ir danfonydd am roi cymorth eithriadol i鈥檞 mab, ac roedd yn llawn canmoliaeth or danfonydd am ei rhan mewn sefyllfa eithaf gofidus ac mae鈥檔 dweud bod y gofal mae ei mab yn ei dderbyn ganddi bob diwrnod yn eithriadol. Mae gyrrwr y bws, Tony Martin, hefyd yn haeddu sylw am y gofal a鈥檙 cymorth a roddodd ar y diwrnod.