Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Eich llwybr i yrfa newydd
  		Published: 01/03/2018
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a Choleg Cambria wedi creu cyfle i chi 
dderbyn hyfforddiant, dysgu sgiliau newydd ac ennill profiad yn y sector 
gweinyddol. 
Os hoffech chi newid gyrfa neu wella鈥檆h sgiliau, yna beth am ystyried swydd 
weinyddol? Yn ogystal 芒 chwrdd 芒 phobl, mae swydd weinyddol yn yrfa bwysig ac 
angenrheidiol ac mae gweinyddwr da yn asgwrn cefn ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes 
yn effeithlon.
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru syn cefnogi, gwella 
sgiliau ac yn cynnig profiadau sy鈥檔 helpu unigolion i gael gwaith. 
Os hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn i ennill hyfforddiant achrededig i 
weithio yn y sector busnes, cysylltwch 芒 Chymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 i 
dderbyn mwy o wybodaeth ac i gadw lle.
Bydd y gweithdai yn dechrau fis Ebrill ac yn cael eu cynnal deuddydd yr wythnos 
o 9.30am tan 2.30pm yng Nghampws Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria.