Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cam Cyntaf Rhwydwaith Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Sir y Fflint
  		Published: 28/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi dechrau i鈥檙 weledigaeth 
trafnidiaeth strategol gyda gwaith adeiladu seilwaith llwybr beiciau a safle 
bws ar Barth 3, Parth Menter Glannau Dyfrdwy diolch i gyllid grant gan 
Llywodraeth Cymru.  
Bydd y gwaith yn cynnwys llwybr beiciau i bob busnes ar y parth, seilwaith 
safle bws newydd yn cynnwys cabanau aros bysiau newydd, rheoli parcio ar y 
stryd a system un ffordd. 
Mae鈥檙 gwaith i fod i ddechrau dydd Llun, 5 Mawrth a bydd yn para am 12 wythnos. 
Bydd mynediad i eiddo a busnesau unigol ar gael, er maen bosib y bydd peth 
oedi pan fydd gwaith yn cael ei wneud.
Mae Cyngor Sir y Fflint a鈥檔 contractwr Roadway Civil Engineerig Ltd yn 
ymddiheuro am unrhyw oedi ac amhariad y bydd y gwaith cynnal a chadw hanfodol 
hwn yn ei achosi, a byddwn yn gwneud y gwaith cyn gynted ag y gallwn. 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd 
Carolyn Thomas: 
 鈥淩ydw i鈥檔 falch iawn ein bod yn bwrw 鈥榤laen gyda gweledigaeth trafnidiaeth ar 
gyfer Sir y Fflint a Gogledd Cymru, i gysylltu pobl gyda鈥檙 ardal waith pwysig 
hon. Dyma un o sawl cynllun cyffrous sydd ar y gweill a fydd yn integreiddio 
pob dull trafnidiaeth i annog gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, 
fforddiadwy ac ecogyfeillgar. Mae cam allweddol hwn y cynllun yn dangos 
ymrwymiad y gweinyddwr presennol i鈥檙 rhwydwaith trafnidiaeth gan gydweithio 
gyda Llywodraeth Cymru.  Wrth symud ymlaen, byddwn yn chwilio am gyfleoedd o 
bob ardal iw cysylltu 芒 datrysiadau trafnidiaeth gynaliadwy.鈥