Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Newidiadau i wasanaethau bws DB1, DB2 a DB4
  		Published: 21/02/2018
O 2 Ebrill 2018 ymlaen, fe fydd yna newidiadau i wasanaethau bws DB1, DB2 a 
DB4. Bydd y newidiadau yma’n effeithio ar gymal Sir y Fflint o’r llwybrau ac ni 
fydd y bysiau yn teithio rhwng Yr Hob, Caergwrle, Llanfynydd Cymau, Treuddyn, 
Nercwys, Yr Wyddgrug. 
Bydd y gwasanaethau newydd yn cael eu gweithredu gan Stagecoach dan gontract 
gyda Chyngor Gorllewin Sir Caer a Chaer yn dilyn ymarfer caffael diweddar.  
Gofynnwyd am ymrwymiad o gyllid hir dymor ar gyfer cymal Sir y Fflint or 
llwybrau; fodd bynnag, o ystyried yr hinsawdd ariannol presennol, nid ywr 
Cyngor Sir mewn sefyllfa i allu ymrwymo cyllid y tu hwnt i fis Mawrth 2018. 
O 2 Ebrill 2018, bydd y gwasanaethau newydd yn gweithredu fel a ganlyn: -
· Bydd DB1 (wedi’i ail-rifo yn 61) yn gweithredu rhwng Caer, Caer - Handbridge 
- Westminster Park - Dodleston - Higher Kinnerton (Bennetts Lane). 
· Ni fydd gwasanaeth DB2 rhwng Caer – Curzon Park – Saltney Ferry yn cael ei 
weithredu. Bydd rhan Handbridge yn cael ei wasanaethu gan wasanaeth 62 
(amrywiad i wasanaeth 61) 
· Bydd gwasanaeth DB4 yn gweithredu fel y mae ar hyn o bryd rhwng Caer, Blacon, 
Saughall a Pharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy (Dydd Llun i ddydd Gwener yn unig)
Mae opsiynau eraill yn cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn ymgynghoriad â 
Chynghorau Cymuned i ddarparu gwasanaethau cludiant eraill syn seiliedig ar y 
gymuned i ymateb ir ffaith bod gwasanaethau bws rheolaidd yn cael eu colli. 
Mae gwasanaeth bws mini cymunedol newydd hefyd yn cael ei weithredu trwy Cymau, 
Llanfynydd, Treuddyn a Leeswood i barc siopa Brychdyn ddwywaith yr wythnos.  Ni 
fydd gwasanaeth bws 40 sy’n cael ei weithredu gan Townlynx Ltd o’r Wyddgrug 
trwy Treuddyn, Llanfynydd a Chymau i Wrecsam yn cael ei effeithio gan y 
newidiadau hyn a bydd yn parhau i dderbyn cymhorthdal gan Gyngor Sir y Fflint. 
Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth bws newydd ar gael ar wefan Cyngor 
Gorllewin Caer a Chaer:
https://www.cheshirewestandchester.gov.uk/residents/transport-and-roads/public-t
ransport/bus-timetables-route-maps/bus-service-timetables/bus-service-changes/up
coming-bus-service-changes-april-2018.aspx