天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched

Published: 25/11/2022

White Ribbon.jpgMae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto wedi dangos ei gefnogaeth i Ymgyrch y Rhuban Gwyn i roi diwedd ar drais yn erbyn merched.

Nodir Diwrnod y Rhuban Gwyn ledled y byd, a dyma鈥檙 fenter fyd-eang fwyaf i roi diwedd ar drais dynion yn erbyn merched drwy alw ar ddynion i gymryd camau i wneud gwahaniaeth.听

Mae Aelodau a swyddogion Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gwisgo rhubanau gwyn i godi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch sy鈥檔 ceisio cael gwared ar bob math o drais yn erbyn merched, ac fe ddaethon nhw ynghyd yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug heddiw i godi baner mewn cefnogaeth.听 Drwy wisgo rhuban gwyn rydych yn gwneud addewid na wnewch chi byth gyflawni, esgusodi na chadw鈥檔 dawel am drais dynion yn erbyn merched.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

鈥淔el Aelod Cabinet, aelod o Banel Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd ac Ymddiriedolwr ac Aelod o Fwrdd Uned Diogelu rhag Cam-drin Domestig Gogledd Cymru, rwy鈥檔 ymwybodol iawn o broblem sylweddol trais yn erbyn merched a genethod. Yn anffodus, mae鈥檔 parhau i fod yn gyffredin ac, mewn gwirionedd, wedi cynyddu yn ystod y pandemig a'r cyfnod clo.听 Mae angen i ni i gyd fod yn wyliadwrus drwy'r amser a rhoi gwybod i'r heddlu am bob achos o'r fath fel y gellir dwyn y cyflawnwyr o flaen eu gwell a'u cosbi am y drosedd ddirmygus hon.

鈥淢ae Sir y Fflint wedi bod yn cefnogi鈥檙 achos yn frwd ers blynyddoedd lawer, ac wedi cael canmoliaeth gan Ymgyrch y Rhuban Gwyn am y gwaith a wnawn.听 Mae鈥檔 bwysig ein bod ni fel sefydliad yn helpu i godi ymwybyddiaeth drwy ddangos ein hymrwymiad a chefnogi gweithgareddau yn ystod yr adeg bwysig hon o鈥檙 flwyddyn."

I gael rhagor o fanylion am yr ymgyrch, neu i ddangos eich cefnogaeth, dilynwch y ddolen ganlynol:听

Os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.听

Dilynwch White Ribbon UK ar twitter: @WhiteRibbon_UK.

听