Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ysgol Glanrafon yn dechrau鈥檙 flwyddyn ysgol newydd wrth i'r gwaith adeiladu gwerth miliynau o bunnoedd ddod i ben
Published: 14/11/2022
Ymwelodd y Gweinidog Addysg ac Iaith Gymraeg, Jeremy Miles AS ag Ysgol Glanrafon yn ddiweddar.
Croesawodd ysgol gynradd Gymraeg yr Wyddgrug y Gweinidog wrth i staff a disgyblion ddangos y gwaith adnewyddu ac ymestyn sylweddol ar y safle.聽
Penododd Cyngor Sir y Fflint Wynne Construction i聽 uwchraddio'r ysgol gyda'r nod o hybu lefel mynediad i addysg Gymraeg yn y sir.聽
Mae'r datblygiad newydd gwerth 拢4m wedi gweld adeiladu estyniad chwe ystafell ddosbarth, prif fynedfa newydd, ac ailfodelu adeilad presennol yr ysgol ar L么n Bryn Coch.
Gosodwyd darpariaeth cyn-ysgol bwrpasol ychwanegol hefyd ar dir Ysgol Glanrafon ar ei newydd wedd a fydd yn darparu cynnig gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg di-dor i blant a theuluoedd cyn iddynt drosglwyddo i addysg statudol. Mae ymchwil yn dangos bod plant sy鈥檔 manteisio ar ddarpariaeth cyn-ysgol cyfrwng Cymraeg yn llawer mwy tebygol o barhau 芒鈥檜 haddysg drwy鈥檙 Gymraeg, sy鈥檔 hynod bwysig i鈥檙 strategaeth genedlaethol ar gyfer miliwn o siaradwyr erbyn 2050.
Croesawyd y prosiect, a ariannwyd drwy grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru, gan y Gweinidog a ddywedodd:
鈥淢ae wedi bod yn wych gweld y datblygiadau newydd yn Ysgol Glanrafon, sy鈥檔 hanfodol er mwyn cyflawni ein nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwyf am weld addysg cyfrwng Cymraeg yn opsiwn i bawb ac rwyf am i bawb gael cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.鈥
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint a鈥檙 Aelod Cabinet Addysg, Y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden:
鈥淢ae'n fraint gen i eto gallu dangos ysgol gynradd arall o鈥檙 radd flaenaf i'r Gweinidog - carreg filltir arall yn narpariaeth rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn Sir y Fflint.聽 Mae鈥檙 buddsoddiad hwn yn darparu cyfleuster modern gwych i blant, pobl ifanc a鈥檙 gymuned ehangach ac yn darparu profiad dysgu ysbrydoledig newydd i blant ysgol gynradd.鈥
Dywedodd Mark Wilson, rheolwr prosiect yn Wynne Construction:聽
鈥淔el busnes 芒鈥檌 wreiddiau鈥檔 ddwfn yng Ngogledd Cymru, mae wedi bod yn wych darparu鈥檙 buddsoddiad mawr hwn mewn addysg cyfrwng Cymraeg i鈥檙 ardal.聽 Mae disgyblion wedi gallu dechrau鈥檙 flwyddyn mewn adeilad modern gyda chyfleusterau ysgol gwell, a fydd ond yn cael effaith gadarnhaol ar eu profiadau dysgu.鈥澛
I gyd-fynd ag agwedd 鈥榝fabrig yn gyntaf鈥 Wynne at adeiladu鈥檙 safle a鈥檌 ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy, defnyddiwyd system canllaw amgen heb sgaffaldiau i sicrhau diogelwch gweithwyr ar y to yn ystod y gwaith adeiladu.
Roedd y system, a oedd angen trawst pren dros dro ar hyd ymyl y to, yn caniat谩u i lwyfannau gweithio uchel symudol (MEWPs) symud ymlaen 芒 gwaith ar y ffasadau gyda mwy o hyblygrwydd.聽
Mae'r deunydd dros dro wedi'i ail-bwrpasu fel planwyr ar 么l cwblhau'r gwaith adeiladu, a disgwylir i'r planwyr gael eu rhoi i gynlluniau eraill y mae'r cwmni'n gweithio arnynt yn Sir y Fflint, gan gynnwys prosiect Blynyddoedd Cynnar Sir y Fflint.
Mae鈥檙 ailddatblygiad yn nodi un o鈥檙 newidiadau mwyaf i鈥檙 ysgol ers iddi agor yn 1949, gyda鈥檙 safle bellach yn fwy addas ar gyfer darparu cyfleoedd dysgu Cymraeg i blant rhwng 3 ac 11 oed.聽
Adnabuwyd ailddatblygiad Ysgol Glanrafon gan Lywodraeth Cymru fel un sy鈥檔 debygol o gynorthwyo gyda鈥檌 tharged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
听听
