天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Genedlaethol Diogelu 2022

Published: 11/11/2022

Safeguarding Logo 2022 - Cymraeg.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Diogelu sy鈥檔 rhedeg o ddydd Llun 14 Tachwedd i ddydd Gwener 18 Tachwedd.听

Gan weithio gyda phartneriaid o gynghorau lleol, y maes iechyd, y gwasanaethau brys, y trydydd sector ac eraill, bydd Byrddau Diogelu ar draws Cymru yn codi ymwybyddiaeth pawb o ystyr diogelu a鈥檙 nifer o sefyllfaoedd lle gall godi.听

Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod a sicrhau eu lles.听 Mae sicrhau bod pobl yn cael eu cefnogi i fyw bywydau llawn a hapus yn rhan bwysig o ddiogelu hefyd.听听

Y thema ar gyfer Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni yw 鈥淐hwilfrydedd Proffesiynol鈥.

Fel Cefnogwyr Diogelu Corfforaethol y Cyngor, rhoddodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin ddatganiadau angerddol mewn cyfarfod diweddar y Cyngor.听 听Eu nod oedd codi ymwybyddiaeth bod angen i bawb sicrhau bod yr holl aelodau o鈥檔 cymdeithas, yn enwedig y rhai mwyaf diamddiffyn, yn cael eu diogelu rhag yr arferion maleisus hyn.听

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles:听

鈥淢ae diogelu oedolion, pobl ifanc a phlant yn flaenoriaeth i鈥檙 Cyngor bob dydd o bob mis.听 听Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau i gadw pobl yn ddiogel o ddifrif. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl, beth bynnag yw ein r么l yn y Cyngor.听

鈥淢ae鈥檙 Bwrdd Diogelu Rhanbarthol yng Nghymru yn nodi mai camfanteisio ar weithwyr yw鈥檙 ail ffurf fwyaf cyffredin o gaethwasiaeth fodern yng Ngogledd Cymru, ar 么l camfanteisio rhywiol, gyda鈥檙 sectorau amaeth, bwyd, lletygarwch ac adeiladu yn agored iawn i arferion llafur gorfodol.鈥澨

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol, gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol:

鈥淩ydym yn cefnogi Wythnos Ddiogelu yn llwyr a fydd yn tynnu sylw at faterion diogelu yn cynnwys camfanteisio鈥檔 rhywiol ar blant, masnachu mewn pobl, caethwasiaeth fodern, radicaleiddio a throseddau rhyw difrifol.听听

鈥淢ae鈥檙 mentrau sydd wedi cael eu cymryd gan y Cyngor i amddiffyn pobl yn cynnwys annog pobl i wneud yr addewid Bydd Garedig Ar-lein i atal seibrfwlio.听 听Ond mae dal llawer o waith i鈥檞 wneud.听

Ein prif neges yw 鈥渕ae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb鈥 - mae angen i bob un ohonom allu adnabod yr arwyddion a gwybod sut i adrodd am bryderon.听 Mae鈥檔 rhaid i hyn fod wrth wraidd popeth yr ydym yn ei wneud fel Cyngor, pan rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus eraill ac, yn bwysicaf oll, fel arweinwyr cymuned.听 听Mae鈥檔 bwysig bod gan bob un ohonom ni fwy o ymwybyddiaeth o鈥檙 materion a鈥檔 bod yn amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl.鈥澨

I gael gwybod mwy am ddiogelu ac am fwy o fanylion am y digwyddiadau ar draws Gogledd Cymru, ewch i: .