Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dyddiad cau derbyniadau ysgol ar gyfer disgyblion blwyddyn 7
Published: 28/10/2022
Hoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa rhieni bod bellach modd iddynt wneud cais ar-lein am le i鈥檞 plentyn yn ysgolion uwchradd Sir y Fflint ar gyfer mis Medi 2023.听 Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i blant a fydd yn dechrau ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi 2023 yw dydd Gwener, 4 Tachwedd 2022.听听
Cynghorir rhieni i 听yn ofalus cyn cyflwyno ceisiadau am le mewn ysgol, yn arbennig wrth ystyried trefniadau cludiant i/o ysgol.听 Mae鈥檙 ddau bolisi鈥檔 cael eu gweithredu鈥檔 llym heb unrhyw eithriad.听听
Mae angen i rieni ystyried sut i gael eu plentyn/plant i ac o鈥檙 ysgol wrth wneud dewisiadau.听 听Mae鈥檔 rhaid i ddisgyblion fynychu eu hysgol uwchradd addas agosaf a byw mewn cyfeiriad sy鈥檔 fwy na 3 milltir o鈥檙 ysgol honno er mwyn derbyn cludiant ysgol am ddim.听 听Cyfrifoldeb y rhieni yw gwirio bod eu plentyn yn mynychu eu hysgol addas agosaf.听
Dywedodd y Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid, Claire Homard:
鈥淢ae gan rieni'r hawl i fynegi dewis ar gyfer derbyn eu plentyn i unrhyw ysgol.听 Fodd bynnag, oni bai eu bod yn bodloni鈥檙 meini prawf a nodir yn y polisi cludiant, ni fydd cludiant am ddim i鈥檙 ysgol yn cael ei ddarparu.听 Er ein bod bob amser yn gwneud ein gorau i ddyrannu llefydd i blant yn eu hysgol ddewisol, os bydd nifer y ceisiadau a dderbynnir yn uwch na nifer y llefydd sydd ar gael, bydd yn rhaid defnyddio鈥檙 meini prawf gordanysgrifio.听 Gall nifer y llefydd sydd ar gael mewn ysgol newid o flwyddyn i flwyddyn am wahanol resymau.鈥澨
Meddai鈥檙 Prif Swyddog Gwasanaethau Stryd a Chludiant, Katie Wilby:
鈥淢ae meini prawf llym ar waith ar gyfer cludiant i鈥檙 ysgol ac ni ddylid cymryd yn ganiataol y bydd bob plentyn yn gymwys.听 听Cynghorir rhieni i beidio 芒 seilio eu dewis ar argaeledd llwybr cludiant cyhoeddus, gan na ellir sicrhau'r gwasanaeth na lleoedd ac mae'n bosib nad yw o fewn rheolaeth yr Awdurdod Lleol.
鈥淵n ogystal 芒 hynny, ni ddylai rhieni gymryd yn ganiataol y bydd y gwasanaethau cludiant cyhoeddus sy鈥檔 weithredol ar hyn o bryd yn parhau i fod ar gael yn y dyfodol.听 听Mae problemau鈥檔 codi gyda chludiant cyhoeddus o bryd i鈥檞 gilydd ac mae gan weithredwyr masnachol hawl i newid neu ddirymu eu gwasanaethau yn aml ar fyr rybudd neu heb rybudd o gwbl.鈥澨
Os oes gan rieni unrhyw bryderon neu os nad ydynt yn siwr pa ysgol yw eu hysgol addas agosaf ar gyfer cludiant, dylent gysylltu 芒鈥檙 Uned Cludiant Integredig drwy鈥檙 Ganolfan Gyswllt gan ffonio 01352 701234 neu anfon e-bost at school.transport@flintshire.gov.uk.听 Cynghorir rhieni i geisio eglurhad cyn gwneud penderfyniad terfynol.听 听Bydd ceisiadau cludiant i鈥檙 ysgol ar gyfer mis Medi 2023 yn agor ym mis Mawrth 2023 unwaith y bydd y derbyniadau wedi鈥檜 cadarnhau.听
Am ragor o wybodaeth am dderbyniadau ysgol, ymwelwch .
听