天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith hanfodol i dorri cannoedd o goed ar yr A541, Ffordd yr Wyddgrug i Ddinbych, sydd wedi鈥檜 heintio â Chlefyd Coed Ynn

Published: 27/10/2022

Ash dieback 1.jpgAr 31 Hydref bydd Sir y Fflint yn dechrau gwaith i dorri coed ynn ar yr A541 rhwng yr Wyddgrug a Dinbych sydd wedi鈥檜 heintio 芒 chlefyd coed ynn. Byddwn yn cau鈥檙 ffordd fesul cam gan ddechrau yn Hendre a symud yn ein blaenau i Star Cross a Nannerch, ac yna i Afonwen. Rhagwelir bydd y gwaith yn cymryd tair wythnos. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra ac amhariadau a achosir gan gau鈥檙 ffordd.听

Ar 31 Hydref byddwn yn dechrau gwaith i dorri cannoedd o goed ynn sydd ym meddiant y Cyngor, sy鈥檔 tyfu wrth ymyl yr A541 Ffordd yr Wyddgrug i Ddinbych. Mae鈥檙 coed sy鈥檔 cael eu torri wedi鈥檜 heintio 芒 chlefyd coed ynn ac mae angen eu torri er diogelwch defnyddwyr y briffordd.听

Meddai鈥檙 Cyng. David Heale, Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a鈥檙 Economi: 鈥淢ae鈥檔 bechod mawr ein bod ni鈥檔 colli鈥檙 holl goed ynn yma. Fodd bynnag, os na wnawn ni rywbeth, mae perygl mawr y bydd y coed heintus yma鈥檔 syrthio ar y briffordd. Bydd y gwaith yma鈥檔 diogelu defnyddwyr y ffordd rhag perygl o鈥檙 fath, ac mae鈥檔 ddechrau da i raglen waith clefyd coed ynn y gaeaf. Hoffaf sicrhau鈥檙 cyhoedd bod ein timau yn gweithio鈥檔 galed i ganfod cyllid i blannu coed newydd.鈥

Mae clefyd coed ynn yn haint ffwngaidd a drosglwyddir drwy鈥檙 awyr sy鈥檔 effeithio ar goed ynn, a chafwyd yr achos cyntaf ohono yn Sir y Fflint yn 2015. Mae鈥檔 bur debyg bod pob coeden onnen yn y sir wedi dod i gysylltiad 芒鈥檙 haint ac yn mynd i gael ei heffeithio i ryw raddau. Cydnabyddir gan y diwydiant y bydd y clefyd yn lladd oddeutu 80% o鈥檙 coed ynn ac y bydd yr 20% sy鈥檔 weddill yn debygol o gael eu lladd gan haint eilradd wrth iddyn nhw golli egni a dod yn fwy agored i heintiau coed eraill.听

Er bod rhai coed yn edrych yn iach, efallai eu bod nhw wedi鈥檜 heintio. Mae鈥檙 ffwng yn tyfu y tu mewn i鈥檙 goeden ac yn y diwedd yn rhwystro ei systemau cludo dwr ac yn achosi i flagur a changhennau'r goeden wywo, gan ladd y goeden yn y pendraw. Mae鈥檙 haint yn effeithio ar holl ffurfiant y goeden a dyna pam bod angen torri鈥檙 coed heintus, rhag ofn iddyn nhw syrthio ar y briffordd.听

Y gwaith torri coed arfaethedig ar Ffordd yr Wyddgrug i Ddinbych yw gwaith cyntaf y tymor. Bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar hyd a lled y sir i dorri coed ynn heintus sydd ym meddiant y Cyngor ac wrth ymyl ein priffyrdd. Yn ogystal, mae yna goed ynn preifat wrth ymyl ein priffyrdd ac felly mae鈥檔 bwysig bod perchnogion coed yn archwilio eu coed yn rheolaidd er mwyn diogelu defnyddwyr y briffordd. I helpu, mae Cyngor Sir y Fflint yn ysgrifennu at berchnogion coed ger llwybrau blaenoriaeth, lle ceir achosion o鈥檙 clefyd coed ynn, i amlygu鈥檙 angen i archwilio鈥檙 coed ac i ymgymryd ag unrhyw waith a argymhellir. Mae鈥檔 bwysig bod y Cyngor a thirfeddianwyr yn torri coed heintus er mwyn lleihau鈥檙 perygl i鈥檙 cyhoedd.听

Am fwy o wybodaeth ewch i鈥檔 tudalen ar goed, lle cewch chi hefyd ddarllen Cynllun Gweithredu Clefyd Coed Ynn Sir y Fflint. Os ydych chi鈥檔 berchen ar goeden onnen, mae gan y Cyngor Coed lyfryn o鈥檙 enw 鈥淕uidance for homeowners and those with ash trees on their land鈥 a all fod yn ddefnyddiol (gwelwch eu gwefan).听