Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb
  		Published: 15/02/2018
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cyfarfod yr wythnos nesaf i ystyried 
opsiynau i osod cyllideb gytbwys ar gyfer 2018/19 i鈥檞 argymell i鈥檙 Cyngor.
Drwy gyfuniad o fod yn ddyfeisgar wrth drefnu ein hunain a鈥檔 gwasanaethau i 
sicrhau 拢79m mewn arbedion dros y 10 mlynedd diwethaf, lleihau ein gofod 
swyddfa a鈥檔 gweithlu a chael cefnogaeth dda gan ein cymunedau o ran croesawu 
newid a chymryd rhagor o gyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau dros eu hunain, 
rydym wedi gallu diogelu ein gwasanaethau rheng flaen hyd yma.
 
Er bod newid sylweddol a thorri costau wedi bod dros gyfres o gyllidebau 
blynyddol, mae bwlch yn y gyllideb o hyd o tua 拢6m ar gyfer 2018/19 gydag 
ychydig o opsiynau ar 么l.  Mae鈥檙 cwmpas ar gyfer gostyngiadau pellach mewn 
portffolios gwasanaeth ar gyfer 2018/19 wedi鈥檌 ddisbyddu. Mae鈥檙 Pwyllgorau 
Trosolwg a Chraffu a鈥檙 Cabinet yn derbyn y sefyllfa hon. 
 
Ni all y Cyngor wneud llawer mwy ar y cam hwn ac mae鈥檔 cael ei hun, fel pob 
Cyngor arall yng Nghymru a Lloegr, mewn sefyllfa heb ei thebyg o鈥檙 blaen, a 
mwyfwy anodd, o ystyried y rhaglen gyni barhaus sy鈥檔 cael ei dilyn gan 
Lywodraeth y DU.
 
Mae鈥檙 tri chais penodol a wnaed i Lywodraeth Cymru am gymorth gyda鈥檙 gyllideb, 
yn unol 芒 phenderfyniad blaenorol y Cyngor, wedi鈥檜 gwneud ac maen nhw鈥檔 cael eu 
trafod.
 
Ar wah芒n i ymyrraeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, yr unig opsiynau sydd ar 么l 
i fantoli鈥檙 gyllideb yw incwm Treth y Cyngor a thynnu ar gronfeydd wrth gefn a 
balansau. Caiff y ddau opsiwn hyn eu trafod yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.
 
Mae鈥檙 Cyngor yn gosod ei gyllideb mewn tri cham, ac ar y trydydd cam hwn, a鈥檙 
cam olaf, nid oes gennym opsiwn ond ystyried yn agored y defnydd o gronfeydd 
wrth gefn a balansau i gau鈥檙 bwlch sydd ar 么l yn y gyllideb yn rhannol ac wedyn 
i osod lefel uwch na鈥檙 lefel draddodiadol o Dreth y Cyngor ar gyfer 2019/20 i 
fantoli鈥檙 gyllideb ac i ddarparu unrhyw gymorth ar gyfer y fformiwla cyllido 
ysgolion. Byddai cynnydd Treth y Cyngor o 6.71% yn codi 拢4.984m tuag at y bwlch 
sydd ar 么l yn y gyllideb o 拢5.752m.  Gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn a 
balansau i lefel y gellir ei rheoli dim ond i gefnogi mantoli鈥檙 gyllideb.
 
Rydym yn cydnabod yn llawn a rhannu鈥檙 sefyllfa risg i鈥檔 hysgolion ac rydym yn 
sylweddoli鈥檔 llawn bod ysgolion yn pryderu am effaith setliad arian gwastad 
posibl i鈥檞 cyllidebau dirprwyedig. Rydym wedi bod yn agored iawn gyda 
phenaethiaid am yr heriau ariannol sy鈥檔 wynebu鈥檙 Cyngor a鈥檙 effaith ddilynol ar 
gyllid ysgolion a鈥檙 risgiau maen eu peri. Rydym yn ceisio canfod datrysiad 
rhannol o leiaf gydag ychydig iawn o opsiynau ar gael.  Gan ystyried sefyllfa 
gyffredinol y gyllideb, rhaid i鈥檙 Cyngor barhau i ganolbwyntio ar osod cyllideb 
sy鈥檔 gyfreithiol gytbwys.
Os bydd unrhyw wybodaeth bellach yn dod i law o ran trafodaethau鈥檙 Cyngor gyda 
Llywodraeth Cymru ac a oes unrhyw opsiynau pellach i fantoli鈥檙 gyllideb, caiff 
ei rhannu yng nghyfarfod y Cabinet yr wythnos nesaf.