Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cwsmeriaid Digidol
  		Published: 15/02/2018
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gytuno â datblygiad sylweddol i 
wasanaethau digidol, a fydd yn caniatáu i bobl gael mynediad i wasanaethau’r 
Cyngor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos – gan helpu gwasanaethau gwrdd â’r 
galw yn well. 
Mae’r datblygiad cyffrous yn adeiladu ar ein Strategaeth Gwasanaethau i 
Gwsmeriaid ac yn gwella ein defnydd o dechnoleg ddigidol. Mae’r cynigion yn yr 
adroddiad yn cynnwys sefydlu cyfrifon cwsmer unigol ar-lein a phorth talu a 
fydd yn galluogi cwsmeriaid i brynu ystod o wasanaethau ar-lein a hynny o un 
pwynt mynediad. Mi fydd yna amrywiaeth o wasanaethau ar gael yn ddigidol, gan 
gynnwys gwasanaethau tai, refeniw a budd-daliadau, treth y cyngor a chyfleuster 
sgwrsio.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
Maen rhaid i ddarpariaeth gwasanaeth y Cyngor yn y dyfodol ganolbwyntio ar 
symleiddior modd y mae cwsmeriaid yn derbyn gwasanaethau. Mantais amlwg hyn yw 
galluogir rheiny sy’n ei chael hi’n hawdd defnyddio gwasanaethau ar-lein i 
wneud hynny, a galluogir rheiny sydd angen cyswllt wyneb yn wyneb neu dros y 
ffôn i ddatrys ymholiadau mwy cymhleth i dderbyn mwy o gefnogaeth gan y staff 
gwasanaethau i gwsmeriaid.
“Dros amser, bydd y dull hwn yn arwain at arbedion sydd wir eu hangen i helpu’r 
Cyngor gydbwyso ei gyllidebau blynyddol i ddiogelu gwasanaethau lleol. Fodd 
bynnag, mae hyn yn ymwneud â moderneiddio a gwella darpariaeth gwasanaethau i 
gwsmeriaid y Cyngor drwy fanteisio ir eithaf ar dechnoleg ddigidol.
Cymeradwyodd y Cyngor ei Strategaeth Digidol a’i Strategaeth Gwasanaethau i 
Gwsmeriaid yn 2017.