Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhyddhad Ardrethi Dewisol 
  		Published: 15/02/2018
Yn dilyn derbyn sylwadau ysgrifenedig gan aelodau etholedig a chyrff elusennol, 
yn ystod cyfarfod diweddar o鈥檙 Cyngor Sir gofynnwyd i swyddogion lunio atebion 
posibl ar gyfer ailsefydlu鈥檙 Rhyddhad Ardrethi Dewisol o 20% ar gyfer 
sefydliadau sy鈥檔 meddiannu eiddo bach.
Ar 20 Chwefror bydd gofyn i鈥檙 Cabinet ystyried atebion a chostau ar gyfer newid 
cynllun Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2017-18 drwy ailgyflwyno rhyddhau dewisol ac 
ychwanegol o 20%, ar gyfer elusennau a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol sy鈥檔 
meddiannu eiddo bach gyda gwerthoedd ardrethol o hyd at 拢6,000.
Bydd y newidiadau, os caent eu gweithredu, yn sicrhau bod 88 o鈥檙 sefydliadau 
hyn sy鈥檔 meddiannu eiddo bach yn elwa ar ryddhad ardrethi o 100%, wedi ei 
ariannu drwy gyfuniad o Ryddhad Ardrethi Gorfodol a/neu Ddewisol. 
Byddai鈥檙 newidiadau arfaethedig yn sicrhau bod y sefydliadau hyn yn cael eu 
trin yn debycach i fusnesau 鈥榥id-er-elw鈥 sy鈥檔 gymwys i dderbyn rhyddhad 
ardrethi o 100% fel rhan o gynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach Llywodraeth 
Cymru. 
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac 
Asedau Cyngor Sir y Fflint:
鈥淵n anffodus, mae鈥檙 gyfraith yn dweud nad yw eiddo sy鈥檔 cael eu meddiannu gan 
elusennau a chyrff cymunedol yn gymwys i dderbyn Rhyddhad Ardrethi Busnesau 
Bach. Maer Cyngor yn cydnabod r么l bwysig elusennau, grwpiau gwirfoddol a 
sefydliadau cymunedol o fewn ein cymunedau. Er gwaethaf y pwysau cyllidebol 
sydd arnom o ganlyniad i dderbyn llai o gyllid gan y llywodraeth ganolog, rydym 
ni鈥檔 ystyried newid fframwaith polisi Rhyddhad Ardrethi Dewisol 2017-18.鈥