Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19
  		Published: 15/02/2018
Ddydd Mawrth, 20 Chwefror, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo 
ac argymell cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai ar gyfer 2018/19 i鈥檙 Cyngor. 
 
Mae鈥檙 Cyngor yn ddewis landlord ar gyfer dros 7000 o denantiaid yn Sir y Fflint 
ac mae鈥檙 Cyfrif Refeniw Tai yn ariannu鈥檙 swyddogaeth bwysig hon. Mae鈥檙 Cyfrif 
Refeniw Tai hefyd yn cwrdd 芒 chostau鈥檙 rhaglen codi tai cyngor 鈥 y rhaglen 
gyntaf o鈥檌 math yng Nghymru ers cenhedlaeth, costau atgyweirio a chynnal a 
chadw cartrefi, gwelliannau i stoc a gwelliannau amgylcheddol, prosiectau 
rheolaeth gymunedol gan gynnwys datrys ymddygiad gwrthgymdeithasol a gofalu am 
stadau, casglu incwm a chynnwys cwsmeriaid. 
Mae鈥檙 Cyngor yn gorfod cyrraedd targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lefelau rhent 
tai cyngor dros amser, ac maer fformiwla ar gyfer gosod rhenti bob blwyddyn 
hefyd yn cael ei phennu gan Lywodraeth Cymru.  Mae rhenti鈥檔 cael eu cyfrifo bob 
blwyddyn ar sail Mynegai Prisiau i Ddefnyddwyr y mis Medi blaenorol (3%) a 
chanran go iawn o gynnydd o 1.5%, a hyd at 拢2 ychwanegol.  Os yw hyn yn cael ei 
gyflwynon llawn, byddain golygu cynnydd mewn rhenti o 4.5% ym mis Ebrill, a 
hyd at 拢2 ychwanegol.
Mae cynnydd mewn rhent a thaliadau gwasanaeth yn cael eu talu gan Gredyd 
Cynhwysol a budd-dal tai ar gyfer tenantiaid cymdeithasol.  Er hynny, bydd 
cyfran o denantiaid yn gymwys i dderbyn rhan or budd-dal yn unig ac felly fe 
allent ei chael yn fwy anodd talu.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
 鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn pryderu am fforddiadwyedd i denantiaid ac felly rwyf i ac 
Arweinydd y Cyngor yn cynnig opsiwn i gynyddu rhenti 3% yn unig ac hyd at 拢2.  
Bydd Cabinet y Cyngor yn ystyried hyn ar 16 Chwefror ac yna鈥檔 gwneud 
argymhelliad i鈥檙 Cyngor llawn yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw.  Bydd gofyn i鈥檙 
Pwyllgor Craffu ystyried goblygiadau鈥檙 ddau opsiwn a darparu adborth i鈥檙 
Cabinet cyn ei gyfarfod.  Bydd Ffederasiwn y Tenantiaid hefyd yn ystyried y 
ddau opsiwn yn eu cyfarfod ddiwedd mis Ionawr.鈥      
Mae disgwyl i renti garejis gynyddu 拢1 yr wythnos ac mae cynnig i rent am ddarn 
o dir ar gyfer garej gynyddu 拢0.20 yr wythnos.
Mae angen ir Cyfrif Refeniw Tai fod 芒 chynllun busnes 30 mlynedd wedii 
lunio.  Mae hwn yn canolbwyntio ar gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), 
cadw at addewidion y ddogfen Dewisiadau, arbedion effeithlonrwydd parhaus a 
wnaed a 200 ty cyngor newydd sydd wedi鈥檜 hadeiladu. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淢ae 拢21 miliwn wedi鈥檌 gynnwys yn rhaglen SATC ar gyfer 2018/19. Mae鈥檔 cynnwys 
darpariaeth ar gyfer gwaith mewnol (ceginau ac ystafelloedd ymolchi), gwaith 
allanol (ffenestri, drysau, toeau, cwterydd, ac ati), rhaglenni amgylcheddol, 
addasiadau i bobl anabl a gwaith i arbed ynni. 
鈥淎r ben hynny, mae 拢14.2 miliwn arall ar gael ar gyfer Rhaglen Strategol 
Adfywio a Thai (SHARP) y Cyngor i sicrhau bod mwy o dai cyngor a chartrefi 
fforddiadwy鈥檔 cael eu hadeiladu yn ystod 2018/19.鈥