Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Egluro newidiadau i gasgliadau gwastraff a gwastraff gardd
  		Published: 12/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cyflwyno newidiadau iw wasanaethau casglu gwastraff 
a gwastraff gardd oherwydd bod angen i鈥檙 Cyngor gyrraedd targedau ailgylchu 
gwastraff Llywodraeth Cymru a rhaid iddo fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 heriau mawr i鈥檙 
gyllideb sy鈥檔 cael eu hwynebu gan bob Cyngor, o ystyried y cyfnod parhaus o 
gyni.
 
1.    Y Gwasanaeth Gwastraff Gardd. Er mwyn bodloni cost y gwasanaeth gwastraff 
gardd 鈥 o 1 Ebrill, bydd t芒l o 拢30 y flwyddyn am y gwasanaeth a fydd yn parhau 
i weithredu o 1 Mawrth i 30 Tachwedd bob blwyddyn (Ni fydd t芒l ychwanegol am y 
casgliadau a wneir ym mis Mawrth eleni).  
 
Os hoffech i ni barhau i gasglu eich bin gwastraff gardd, mae manylion 
cofrestru ar-lein yn www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd neu gallwch ein 
ffonio ar 01352 701234 i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.
 
Os byddai鈥檔 well gennych, gallwch fynd 芒 gwastraff gardd i鈥檆h Canolfan 
Ailgylchu Gwastraff Cartref agosaf yn rhad ac am ddim, neu os oes gennych le, 
gallech ei gompostio adref.  Mae gwybodaeth am sut i gompostio ar gael yn 
www.siryfflint.gov.uk/gwastraffgardd neu drwy fynd i鈥檆h canolfan Cysylltu 
agosaf. Er mwyn derbyn y deunydd gwastraff gardd, bydd safleoedd Canolfannau 
Ailgylchu Gwastraff Cartref yn gweithredu oriau agor yr haf o 1 Ebrill a 
byddant ar agor o 10am tan 6pm saith diwrnod yr wythnos. Mae鈥檙 oriau estynedig 
hyn dros yr haf yn rhedeg tan 30 Medi 2018.
 
2.    Gorfodi Gwastraff Ochr. Mae llawer o breswylwyr yn ymrwymedig iawn i 
ailgylchu eu gwastraff ond mae rhai nad ydynt yn ailgylchu ac mae hyn yn 
effeithio鈥檔 ddifrifol ar ein perfformiad ailgylchu. O 1 Mawrth 2018, byddwn yn 
dechrau ymweld 芒 phreswylwyr syn gadael gwastraff ochr gydau bin du iw 
hannog i ailgylchu ac i roi gwybod iddynt beth ellir ei ailgylchu a beth na 
ellir ei ailgylchu. Os yw ein help a鈥檔 cyngor yn cael ei anwybyddu a bod pobl 
yn parhau i adael gwastraff ochr, gallent gael dirwy o 拢75.
 
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd 
Carolyn Thomas: 
 
鈥淢ae鈥檙 materion hyn wedi鈥檜 trafod yn fanwl ac ni fu yr un yn benderfyniad 
hawdd, roedd rhaid gwneud dewisiadau anodd oherwydd trefn cyni parhaus 
Llywodraeth y DU.  Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor i gasglu 
gwastraff gardd ac mae nifer o Gynghorau eraill eisoes wedi cyflwyno t芒l o鈥檙 
fath.  Fodd bynnag, mae angen i ni gyrraedd targedau llym y Llywodraeth o ran 
ailgylchu gwastraff cartref er mwyn osgoi cael dirwy 鈥 arian a allai gael ei 
wario鈥檔 well ar ddarparu gwasanaethau angenrheidiol, statudol, fel addysg ein 
plant a gofal iechyd cymdeithasol i breswylwyr henoed a diamddiffyn Sir y 
Fflint.  Mae cyngor am beth i鈥檞 ailgylchu ar gael ar wefan y Cyngor neu drwy 
fynd i un o鈥檔 canolfannau Cysylltu.鈥