Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Teithwyr Amser Dydd Sant Ffolant!
  		Published: 06/02/2018
Mae Archifdy Sir y Fflint unwaith eto’n gwahodd teithwyr amser ifanc i 
gofrestru ar gyfer digwyddiad arbennig yr hanner tymor hwn. 
Bydd digwyddiad Sant Ffolant y Teithwyr Amser Bychain yn cael ei gynnal ddydd 
Mercher 14 Chwefror – Dydd Sant Ffolant am 10.30am yn yr Archifdy ym 
Mhenarlâg.  
Gall babanod a phlant hyd at 7 oed ddod draw gyda’u rhieni, gofalwyr neu 
warcheidwaid i gael hwyl yn dysgu am hanes trwy luniau, storïau, crefftau a 
cherddoriaeth. 
Bydd y sesiwn yn para awr ac maer cyfan yn rhad ac am ddim.
Mae archebu lle’n hanfodol, felly peidiwch ag oedi!  I archebu lle, neu i gael 
rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at archives@flintshire.gov.uk neu ffoniwch 
01244 532364.