Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2018
  		Published: 02/02/2018
Mae Cyngor Sir y Fflint unwaith eto鈥檔 cefnogi Diwrnod Defnyddio鈥檙 Rhyngrwyd yn 
Fwy Diogel ar 6 Chwefror er mwyn hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o 
dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymysg plant a phobl ifanc. 
Mae鈥檙 diwrnod yn cael ei ddathlu ar ail ddiwrnod yr ail wythnos yn yr ail fis 
bob blwyddyn; ac mae miloedd o bobl yn uno i godi ymwybyddiaeth o broblemau 
diogelwch ar-lein a chymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ledled y 
byd.  Thema eleni yw 鈥楥reu, Cysylltu a Rhannu Parch: mae rhyngrwyd gwell yn 
dechrau gyda chi.鈥
Y llynedd, fe gyrhaeddodd yr ymgyrch 3 miliwn o blant a 2 filiwn o rieni ar 
draws y DU, a bydd ysgolion Sir y Fflint yn chwarae eu rhan i gefnogi a chodi 
ymwybyddiaeth.   
Dywedodd y Cynghorwyr Christine Jones a Billy Mullin, Cefnogwyr Diogelu 
Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淕yda鈥檙 rhyngrwyd a鈥檙 cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan mor fawr yn ein 
bywydau bob dydd, maen bwysig cofio bod yna bobl o hyd a fydd yn chwilio am 
unrhyw gyfle i gyfaddawdu ar eich diogelwch ar-lein.  Mae Diwrnod Defnyddior 
Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn helpu i godi ymwybyddiaeth pobl o鈥檙 risgiau sy鈥檔 
gysylltiedig 芒鈥檙 byd ar-lein.  Mae鈥檔 bwysig ein bod ni鈥檔 diogelu ein hunain a鈥檔 
plant a鈥檔 pobl ifanc yn erbyn peryglon posibl, i sicrhau nad ydym yn dod yn 
ddioddefwyr seiberdroseddau.鈥 
Dyma ychydig o awgrymiadau ar sut y gallwch chi aros yn ddiogel ar-lein:
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a chofiadwy 
- Gosodwch feddalwedd gwrth-firws ar ddyfeisiau newydd
- Gwiriwch osodiadau preifatrwydd eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol
- Siopwch yn ddiogel ar-lein 鈥 cofiwch wirio a yw safleoedd manwerthu ar-lein 
yn ddiogel 
- Lawrlwythwch feddalwedd a phatshys rhaglenni pan ofynnir i chi wneud hynny
- Peidiwch byth 芒 chwrdd 芒 鈥榝frind鈥 ar-lein
- Peidiwch 芒 datgelu gwybodaeth bersonol
- Os ydych chi鈥檔 cael eich bwlio ar-lein 鈥 dywedwch wrth rywun cyn i bethau 
fynd yn waeth
- Peidiwch ag uwchlwytho na rhannu lluniau pryfoclyd 鈥 unwaith y byddant 
ar-lein byddant allan o鈥檆h dwylo
Dewch i ganfod mwy am Ddiwrnod Defnyddior Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a chymryd 
rhan! www.saferinternetday.org.uk #SID2018.