Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gweddnewid Ysgol Uwchradd Cei Connah
  		Published: 13/02/2018
Mae鈥檙 rhaglen foderneiddio ar gyfer Ysgol Uwchradd Cei Connah wedii rhoi ar 
waith.
  
Fe ddechreuodd disgyblion or ysgol y gwaith mewn seremoni torri tir swyddogol 
yn ddiweddar.  Daeth cynghorwyr, swyddogion a chynrychiolwyr y contractwr, Kier 
Construction o Wrecsam, i鈥檙 digwyddiad.
 
Mae鈥檙 gwaith yn canolbwyntio ar godi adeiladau deulawr newydd, yn lle鈥檙 bloc 
Dylunio a Thechnoleg ar bloc Celf a Thechnoleg Bwyd, a fydd yn cynnwys swyddfa 
weinyddol, Dylunio a Thechnoleg, Technoleg Bwyd, Celf a Dylunio a lle i 
ddarpariaeth addysgu ychwanegol, gofod swyddfa, toiledau, lifftiau, grisiau ac 
ystafell blanhigion.
 
Mae鈥檙 gwaith yn rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif gan Lywodraeth 
Cymru ac yn dilyn y gwaith a gwblhawyd yng Nghampws Dysgu Treffynnon a Choleg 
6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
 
鈥淢ae angen mawr am y gwaith moderneiddio yn yr ysgol a bydd o safon uchel ac yn 
darparu cyfleusterau modern o鈥檙 radd flaena鈥 a鈥檙 cyfleoedd dysgu gorau i鈥檔 
plant.  Mae鈥檙 Cyngor yn dal i ymrwymo i fuddsoddi yn nyfodol ein plant an pobl 
ifanc. Rydyn ni鈥檔 parhau i weithio i ddarparu addysg gynaliadwy o safon uchel 
in holl ddisgyblion a鈥檔 myfyrwyr.  Rwy鈥檔 edrych ymlaen at weld y gwaith wedi鈥檌 
gwblhau鈥檔 fuan yn 2019.鈥
Dywedodd y Pennaeth, Ann Peers:
鈥淏ydd y rhaglen adeiladu wych yman darparu鈥檙 cyfleusterau in hysgol allu 
cynnig addysg effeithiol ar gyfer yr 21ain ganrif pan mae ei angen fwyaf. Mae 
pawb yn yr ysgol wir yn mwynhau gweld y prosiect, sydd bellach ar waith ac ar 
amser, yn datblygu o flaen ein llygaid.鈥 
 
Dywedodd John O鈥機allaghan, rheolwr-gyfarwyddwr Gogledd Prydain Kier 
Construction: 
鈥淩ydyn ni鈥檔 falch o fod wedi cychwyn ar waith i ddarparu adeilad addysg newydd 
ar gyfer yr ysgol. Byddwn yn gweithio gydar gadwyn gyflenwi leol i gwblhaur 
bloc newydd, a fydd yn darparu cyfleusterau or safon uchaf i helpur myfyrwyr 
i gyflawni cymaint ag y gallant. Mae gennym ni lawr o brofiad o weithio ar 
brosiectau addysg ar draws y wlad a byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i 
gwblhau鈥檙 prosiect hwn i safon uchel.
 
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams: 
鈥淢ae bod ag amgylchedd braf i ddysgu ynddo, gyda鈥檙 cyfleusterau iawn a digon o 
le, yn hanfodol i sicrhau bod ein plant yn cael yr addysg orau bosib鈥. Rwy鈥檔 
falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu bron i 拢6 miliwn tuag at 
gyfanswm y gost o ychydig dros 拢13 miliwn i sicrhau bod Ysgol Uwchradd Cei 
Connah yn gwneud hynny. Fe fydd y prosiect hwn yn golygu newid go iawn ir 
myfyrwyr au hathrawon. 
鈥淓in bwriad cenedlaethol ydi codi safonau, lleihau鈥檙 bwlch cyflawni a darparu 
system addysg sy鈥檔 ennyn balchder a hyder yn genedlaethol. Mae ein Rhaglen 
Addysg ac Ysgolion y 21ain Ganrif yn chwarae rhan allweddol yn hyn a dyma鈥檙 
buddsoddiad mwyaf yn ein hysgolion a鈥檔 colegau ers y 1960au.鈥