天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Ffliw Adar gan Gyngor Sir y Fflint

Published: 29/01/2018

Mae Gwasanaeth Diogelu Defnyddwyr a Busnes, Cyngor Sir y Fflint yn dymuno gwneud holl geidwaid adar a dofednod ar draws Sir y Fflint yn ymwybodol or cyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru i helpu i warchod adar a dofednod rhag lledaeniad posibl y ffliw adar. Oherwydd nifer o achosion o鈥檙 ffliw adar a gadarnhawyd ar draws Lloegr yn ddiweddar mae Lloegr a nawr Cymru wedi eu datgan yn Barthau Atal y clefyd. Mae pob achos hyd yma wedi digwydd mewn adar gwyllt ac mae鈥檙 risg i ddofednod yn benodol o ledaeniad y clefyd naill ain uniongyrchol neun anuniongyrchol nawr wedi鈥檌 godi gan y llywodraeth o risg isel i risg canolig o ddydd Iau 25 Ionawr 2018. Mae T卯m Iechyd Anifeiliaid, Cyngor Sir y Fflint yn cynghori holl geidwaid adar a dofednod am bwysigrwydd sicrhau lefelau uchel o bioddiogelwch ar gyfer eu hanifeiliaid anwes/da byw i ddiogelu eu hadar eu hunain ac atal unrhyw ledaeniad posibl o鈥檙 clefyd. Fel rhagofal, mae Llywodraeth Cymru wedi datgan Parth Atal Ffliw Adar a fydd yn berthnasol o 00:01 ar 25 Ionawr 2018. Bydd y Parth Atal yn gofyn i bob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill, waeth sut maent yn cael eu cadw, gymryd camau addas ac ymarferol, yn cynnwys: 鈥� Sicrhau nad yw鈥檙 ardaloedd lle cedwir adar yn denu adar gwyllt, er enghraifft drwy osod rhwydi dros byllau, a chael gwared ar ffynonellau bwyd adar gwyllt; 鈥� Bwydwch a rhowch ddwr ich adar mewn mannau amgaeedig i beidio ag annog adar gwyllt; 鈥� Lleihewch symudiad pobl i mewn ac allan o fannau caeedig syn cynnwys adar; 鈥� Glanhewch a diheintiwch esgidiau, a chadw鈥檙 ardaloedd lle mae adar yn byw yn l芒n ac yn daclus; 鈥� Lleihewch unrhyw halogiad presennol drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrid, a rhoi ffens o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog. Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae diogelu iechyd a diogelwch ein cymunedau a鈥檔 heconomi leol yn brif bryder i鈥檙 Cyngor ac os byddwn i gyd yn gweithio gyda鈥檔 gilydd a dilyn cyngor Llywodraeth Cymru i gadw鈥檙 clefyd hwn allan o鈥檔 sir, gobeithio y byddwn yn gallu ei atal yn llwyr neu gyfyngu ar ei effaith pe bai haint yn digwydd. Mae canllawiau yn ei gwneud yn ofynnol i geidwaid sydd gyda mwy na 500 o adar i gymryd mesurau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, yn cynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad ydynt yn hanfodol, newid dillad ac esgidiau cyn mynd ir mannau caeedig syn cynnwys yr adar, a diheintio cerbydau. Bydd holl ddeiliaid dofednod ac adar eraill sydd wedi eu caethiwo angen cydymffurfio 芒 gofynion y Parth Atal Ffliw Adar. Gofynnir i geidwaid barhau鈥檔 wyliadwrus am arwyddion o glefyd. Mae ffliw adar yn glefyd hysbysadwy a dylid rhoi gwybod am unrhyw beth amheus i鈥檙 Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Cynghorir holl geidwaid dofednod, hyd yn oed y rhai 芒 llai na 50 o adar i ddarparu eu manylion i鈥檙 Gofrestr Dofednod. Bydd hyn yn sicrhau y gellir cysylltu 芒 nhw ar unwaith, drwy e-bost neu ddiweddariad testun os bydd yna achos o glefyd adar, i鈥檞 galluogi i ddiogelu eu praidd gynted 芒 phosibl. Mae gwybodaeth ar ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a datblygiadau diweddaraf i gyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Dylai unrhyw geidwaid adar/dofednod 芒 phryderon am eu hadar gysylltu 芒鈥檜 milfeddygfa breifat neu鈥檙 Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar gyfer y cyngor diweddaraf.