Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif Llywodraeth Cymru
  		Published: 15/01/2018
Bydd gofyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y 
Fflint adolygu a gwneud argymhellion i鈥檙 Cabinet ar raglen ysgolion yr 21ain 
ganrif Llywodraeth Cymru, pan fydd yn cyfarfod ar 18 Ionawr.   
Bydd Band A y rhaglen yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2019. Mae Sir y Fflint 
eisoes wedi dechrau cynllunio rhaglen uchelgeisiol o fuddsoddiadau ar gyfer 
鈥淏and B鈥 y rhaglen a fydd ar fynd o 2019 tan 2024.  
Ar ben yr arian cyfalaf, bydd arian refeniw a fydd yn golygu y bydd modd gwneud 
buddsoddiad ychwanegol yn sefydliadau addysg y sir. Yr enw ar hwn ywr Model 
Buddsoddi Cydfuddiannol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau eu cymeradwyaeth, mewn egwyddor, i Raglen 
Amlinellol Strategol y Cyngor a gyflwynwyd i鈥檙 Llywodraeth ym mis Gorffennaf. 
Yn ei hanfod, dyma 鈥榙datganiad o fwriad y Cyngor ar gyfer y rhaglen fuddsoddi 
Band B am swm o dros 拢85 miliwn, gan gynnwys datganiad o ddiddordeb y gallai 
un prosiect fod yn addas ar gyfer Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Gofynnodd Llywodraeth Cymru i raglenni 鈥淏and B鈥 gael eu blaenoriaethu ac felly 
mae prosiectau wediu hasesu au blaenoriaethu ar sail eu hamgylchiadau 
presennol, er y bydd angen peth hyblygrwydd yn y rhaglen chwe blynedd o hyd 
hon, a bydd cynnydd yn cael ei adolygun drwyr amser.
Bydd yr ymatebion o bob proses ymgynghori ffurfiol yn cael eu cyflwyno i 
Gabinet y Cyngor Sir, ynghyd 芒鈥檙 asesiad o effaith, yr arfarniad o鈥檙 opsiynau 
ac argymhellion y swyddogion. Yna, bydd y Cabinet yn penderfynu sut i fynd ati 
i weithredu ar gyfer ardal neu ysgol unigol.
Dywedodd Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint dros dro, Claire 
Homard:
 鈥淢ae鈥檙 rhaglen gyffrous yma wedi dod o hyd i nifer o brosiectau newydd a fydd 
yn gwella addysg ar gyfer ein trigolion ifanc ac yn sicrhau bod ein hadeiladau 
a鈥檔 hisadeiledd yn addas ar gyfer yr 21ain ganrif. Bydd y Model Buddsoddi 
Cydfuddiannol newydd yn ein galluogi i fuddsoddi mwy a sicrhau bod ein 
hadeiladaun cael eu hadeiladu au cynnal i safon uchel, gyson gan y contractwr 
penodedig am 25 mlynedd, am d芒l gwasanaeth blynyddol.
Gan fod hwn yn fodel newydd ac yn ffordd newydd o weithio, mae Llywodraeth 
Cymrun penodi t卯m amlddisgyblaethol, arbenigol sydd 芒 phrofiad o 
bartneriaethau cyhoeddus-preifat i gynorthwyor Cynghorau. Maer Llywodraeth 
wedi ystyried y problemau a wynebwyd yn y gorffennol mewn cynlluniau ariannu 
preifat ac mae wedi ceisio lliniarur rhain yn y Model Buddsoddi Cydfuddiannol, 
er enghraifft, drwy ddefnyddio model syn canolbwyntio ar oes isadeiledd a bod 
yr ysgolion yn parhau i ofalu am wasanaethau eraill nad ydynt yn rhai addysg, 
fel arlwyo, cynnal a chadwr safle a glanhau.