天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngerdd Dydd Gwyl Dewi y Cadeirydd

Published: 12/01/2018

Bydd Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint yn cynnal Cyngerdd Elusen Dydd Gwyl Dewi yn Eglwys Santes Fair, yr Wyddgrug dydd Iau, 1 Mawrth. Yn serennu yn y cyngerdd fydd Richard ac Adam o raglen Britain鈥檚 Got Talent. Bydd C么r Meibion Fflint, artist unigol Elisa Edwards a Chanwyr Sioned Ellis yn perfformio hefyd. Bydd y drysau yn agor am 7pm a鈥檙 sioe yn dechrau am 7.30pm. Gallwch brynu eich tocynnau, sydd yn 拢15 yr un, drwy gysylltu 芒鈥檙 Cadeirydd, y Cynghorydd Brian Lloyd yn uniongyrchol ar 07734 579898 neu ffonio ei swyddfa ar 01352 702151, neu anfon e-bost at chairman.assistant@flintshire.gov.uk. Mae tocynnau ar gael hefyd yn Swyddfeydd Cyngor Tref yr Wyddgrug, Vaughan Davies, Bargain Booze a Chanolfan Gymunedol Daniel Owen yn yr Wyddgrug. Bydd yr holl elw yn mynd i elusennau鈥檙 Cadeirydd sef Hosbis Claire House, Cymorth Canser Macmillan a Barnardos Cymru. Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn cyngerdd sydd yn argoeli i fod yn noson wych o adloniant.