Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Taliadau parcio ceir
Published: 11/01/2018
Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint yn adolygu鈥檙
taliadau arfaethedig ar gyfer parcio ceir ac yn argymell eu dewis a ffefrir pan
fydd yn cyfarfod nesaf, dydd Mawrth, 16 Ionawr.
Nid yw lefelau taliadau parcio ceir wedi鈥檜 hadolygu ers eu cyflwyniad yn Ebrill
2015 ac nid yw鈥檙 incwm a gynhyrchir yn bodloni鈥檙 gost lawn o reoli a
gweithredu鈥檙 parciau ceir. Maer sefyllfa hon yn groes i bolisi corfforaethol y
Cyngor sydd newydd ei fabwysiadu ar gyfer ffioedd a thaliadau, syn disgwyl bod
swyddogaethau nad ydynt yn orfodol ond y gellir codi t芒l amdanynt, yn cael eu
rhoi ar sail adennill costau llawn, lle bynnag y bon bosibl.
Dywedodd Aelod Cabinet Strydwedd a Chludiant Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd
Carolyn Thomas:
鈥淩ydym yn byw mewn cyfnodau anodd ac mae codi taliadau mewn meysydd parcio鈥檔
mynd i fod yn fater cynhennus bob amser. Fodd bynnag, dyma un o鈥檔 hatebion i
helpu i fantoli ein cyllideb flynyddol, ac mae angen codi lefelau incwm ar
draws pob gwasanaeth. Mae pob Cyngor mewn sefyllfa debyg ac o ymchwil cymharol,
mae gan Sir y Fflint gwmpas i gynyddu cyfanswm ei hincwm. Maer cynyddiadau
arfaethedig yn rhesymol a byddent yn dal yn isel ou cymharu 芒 siroedd eraill
yng Nghymru.
Mae effaith tueddiadau parcio lleol wedi鈥檌 hystyried yn eang ym mhob tref lle
mae taliadau parcio ceir. Mae pob cyfle i gynnig rhywfaint o barcio ar y stryd
am ddim, yn agos at ganol y dref, wediu harchwilio, ac maer Cyngor ar hyn o
bryd yn ymgynghori gyda dau Gyngor Tref ynghylch y potensial i gael gwared ar
rai gorchmynion pedestreiddio, a fydd yn caniat谩u cerbydaun 么l ar y Strydoedd
Mawr.
Mae cynlluniau parcio 鈥楶reswylwyr yn Unig hefyd yn cael eu hystyried mewn dwy
ardal o鈥檙 Sir, lle mae parcio wedi鈥檌 ddadleoli鈥檔 digwydd, o ganlyniad i fannau
parcio ceir sydd ddim ar gael yng nghanol y dref, sy鈥檔 creu problemau i
breswylwyr lleol.
Yr elfen fwyaf heriol yw mesur yr effaith a gaiff taliadau parcio ceir ar
fywiogrwydd a hyfywedd canol trefi. Mae ymchwil yn dangos nad yw taliadau wedi
effeithio ar y defnydd o fannau parcio ceir, yn wir, mae cynnydd wedi bod yn y
defnydd mewn chwe thref dros y ddwy flynedd diwethaf. Cei Connah yw鈥檙
eithriad, lle mae mannau parcio oddi ar y stryd helaeth.
Parhaodd y Cynghorydd Thomas i ddweud:
鈥淐yfanswm cost darparu a rheolir gwasanaeth parcio ceir yw 拢886,000 y
flwyddyn, a byddai hyn yn cael ei adennill gan y newidiadau arfaethedig. Byddai
hyn yn arwain at wasanaeth parcio ceir sy鈥檔 niwtral o ran cost ac syn adennill
y gost lawn.鈥
Nid oes unrhyw gynlluniau i godi鈥檙 taliadau parcio ceir yn Nhalacre ar hyn o
bryd, gan fod y cyfraddau yno eisoes yn uwch na鈥檙 rhai a godir mewn mannau
eraill o鈥檙 sir. Fodd bynnag, yn yr Wyddgrug, cynigir y byddai鈥檙 taliadau hyn
yn parhau ar lefel fymryn yn uwch nag mewn ardaloedd eraill o鈥檙 Sir, gyda
chanran o鈥檙 t芒l cynyddol yn cael ei ddychwelyd ir Cyngor Tref, i鈥檞 caniat谩u i
fuddsoddi mewn gwelliannau isadeiledd ymwelwyr.
Os cytunir ar hyn, bydd y trefniadau codi t芒l newydd yn cael eu hysbysebu ym
mhob maes parcio yn ystod Chwefror a Mawrth 2018, ac yn dod i rym o 1 Ebrill
2018.