天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adroddiad Cyllideb Ysgolion

Published: 15/01/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint yn ystyried dichonolrwydd setliad 鈥榓rian gwastad鈥 i ysgolion. Mae setliad 鈥榓rian gwastad鈥 yn golygu y bydd ysgolion yn derbyn yr un lefel o gyllid ag y llynedd heb unrhyw gynnydd i gynorthwyo ag ariannu costau megis codiad cyflog i staff neu gostau cynyddol ynni, nwyddau a gwasanaethau. Er bod y gyllideb addysgol ganolog o fewn y Cyngor wedi gostwng o 30% dros y tair blynedd diwethaf, mewn ymateb i galedi parhaus gwasanaethau鈥檙 llywodraeth leol, nid yw cyllidebau dirprwyedig i ysgolion wedi bod yn destun mesurau effeithlonrwydd sylweddol ac maent wedi cael eu gwarchod i raddau helaeth. Mae鈥檙 bwlch tybiedig yn y Gyllideb, i鈥檞 ganfod gan y Cyngor ar gyfer 2018/19, dros 拢13m. Yn ystod Camau 1 a 2y broses gosod Cyllideb, mae鈥檙 Cyngor wedi nodi cynigion er mwyn symud yn agosach at gydbwyso ei gyllideb. Mae hyn wedi bod yn her fawr i鈥檙 Cyngor ac mae Cam 3 y broses eto i ddod. Nid oes lle yn yr ystyriaethau cyllideb i gynnig cynnydd i ysgolion o ran eu cyllidebau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae鈥檙 Cyngor wedi gallu bodloni鈥檙 argymhellion Gweinidogol a chynnig cynnydd bychan i gyllidebau dirprwyedig ysgolion i鈥檞 cynorthwyo 芒 phwysau chwyddiannol cynyddol a rhoi rhywfaint o amddiffyniad i wasanaethau addysg rheng flaen. Fodd bynnag, oherwydd y sefyllfa ariannol bresennol, mae鈥檔 rhaid i aelodau etholedig ystyried yr holl opsiynau sy鈥檔 weddill i geisio bodloni鈥檙 gofyniad cyfreithiol i osod cyllideb gytbwys. Mae鈥檙 Cyngor ac ein cymuned addysgol yn parhau i apelio at Weinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ystyried effaith y caledi parhaus ar ddarpariaeth gwasanaethau addysg lleol a chydnabod y costau gweithlu sylweddol sydd wedi鈥檜 creu oherwydd newidiadau i bensiynau ac Yswiriant Gwladol. Mae鈥檙 Cyngor yn parhau i hawlio y dylid ariannu unrhyw godiad cyflog yn y dyfodol yn llawn yn ogystal 芒 setliad 鈥榓rian gwastad鈥 ac y dylid derbyn sicrwydd y bydd unrhyw ymrwymiad polisi neu ymrwymiad deddfwriaethol newydd sydd wedi鈥檌 greu gan Lywodraeth Cymru neur Llywodraeth Ganolog yn cael ei ariannu鈥檔 llawn. Gyda chanran uchel o gyllideb unrhyw ysgol ym mynd tuag at gostau staffio, nid yw鈥檔 syndod bod cynnydd i鈥檞 weld o ran diswyddiadau mewn ysgolion. Er bod hyn yn arbed arian, mae hefyd yn creu risgiau posibl, er enghraifft gall hyn effeithio鈥檔 negyddol ar ystod, ansawdd ac ehangder y cwricwlwm sy鈥檔 cael ei gynnig, gall y lefelau o gefnogaeth academaidd a鈥檙 ymyrraeth fugeiliol ar gyfer disgyblion diamddiffyn leihau ac o bosib y bydd cynnydd o ran meintiau鈥檙 dosbarthiadau. Er gwaetha鈥檙 ffaith i ysgolion weithio鈥檔 galed i sicrhau eu bod arbed cymaint o arian 芒 phosibl dros y tair blynedd diwethaf, mae 7 o 11 ysgol uwchradd yn Sir y Fflint mewn sefyllfa o ddiffyg cyllidebol a disgwylir i hyn gynyddu. Mae Penaethiaid eisoes yn adrodd am lefelau uchel o straen wrth i ddylanwad y gostyngiadau cyllidebol ddechrau effeithio arnynt. Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn wynebu heriau ariannol mawr ac mae鈥檔 rhaid iddo wneud penderfyniadau anodd iawn ynglyn 芒 sut i ddyrannu ei gyllid cyfyngedig a sut i ganfod rhagor o arbedion i gyflawni cyllideb sy鈥檔 gytbwys yn gyfreithiol. 鈥淢ae gosod cyllideb 鈥榓rian gwastad鈥 ar gyfer ysgolion yn gwneud cyfraniad sylweddol at gau鈥檙 bwlch yn y gyllideb ond gall hyn beryglu cynaliadwyedd gwasanaethau addysg o safon yn Sir y Fflint. Bydd penderfyniad o鈥檙 fath yn effeithio ar yr holl ysgolion ond bydd yn enwedig yn heriol i鈥檙 rheiny sydd 芒 sefyllfa gyllidebol sydd yn llai gwydn nag eraill. 鈥淢ae ysgolion wedi bod yn rhagweithiol wrth addasu i ostyngiad y lefelau cyllid, wrth ganolbwyntio ar gynnal eu darpariaeth o gwricwlwm o safon a gwella canlyniadau dysgwyr. Mae perfformiad y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 yn bodloni neu鈥檔 well na鈥檙 lefelau disgwyliedig ac mae Cyfnod Allweddol 4, er ei fod yn parhau i fod yn is na鈥檙 lefelau disgwyliedig, wedi gwella鈥檔 aruthrol yn 2017, er gwaethaf yr heriau ariannol. 鈥淢ae rhai lliniariadau i ddiogelu ysgolion rhag effeithiau setliad 鈥榓rian gwastad鈥 yn dilyn blynyddoedd heriol o safbwynt cyllid addysgol. Unai y bydd rhaid newid y polisi cenedlaethol ar galedi neu bydd angen i ysgolion fynd yn bellach fyth wrth wneud arbedion lleol.鈥